ASB Cymru - Y Cefndir
Lansiwyd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ym mis Ebrill 2000. Ein nod yw bod yn ffynhonnell gyngor a gwybodaeth bwyd mwyaf dibynadwy Cymru. Mae ein cylch dylanwad yn ymestyn o'r 'fferm i'r fforc' - mewn geiriau eraill, o'r pwynt lle mae'r bwyd yn cael ei dyfu neu'i weithgynhyrchu i'r adeg pan mae'n cyrraedd eich plât. Rydym yn eich rhoi chi, ddefnyddwyr Cymru, yn gyntaf.
O dan arweinyddiaeth ein Cyfarwyddwr, Steave Wearne, mae gan 40 aelod staff ASB Cymru ystod eang o arbenigedd polisi a phroffesiynol. mae ein swyddfa yng nghanol Caerdydd, ac o'r fan hon, rydym yn cyflawni swyddogaethau amrywiol a wnaed gynt gan staff iechyd cyhoeddus ac amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ym 1999, cafodd pwerau diogelwch a safonau bwyd eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r ASB yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac i'r Senedd drwy'r Gweinidogion Iechyd. Mae gweithio o fewn cyd-destun datganoli yn fanteisiol gan ei fod yn golygu ein bod yn gallu ystyried anghenion a materion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, tra'n parhau i sicrhau bod dull cyson ledled y DU o fynd i'r afael â diogelwch bwyd nad yw, wrth gwrs, yn cydnabod ffiniau gwleidyddol na daearyddol.
Bydd yr Asiantaeth yn gwarchod buddiannau defnyddwyr yng Nghymru trwy ddilyn tri gwerth craidd. Bydd yn rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf, bydd yn agored ac yn hygyrch, a bydd yn llais annibynnol. Rydym yn cyflawni ein gwaith mewn ffordd agored, ac mae'r penderfyniadau a wnawn yn agored ac yn hygyrch.
Meysydd gwaith allweddol yr Asiantaeth yng Nghymru yw:
- Maeth - rhoi cyngor i'r cyhoedd, y Cynulliad Cenedlaethol ac eraill ar faeth a deiet, gan weithio gyda'r Cynulliad ar feysydd o gyd-gyfrifoldeb;
- Diogelu defnyddwyr - trwy orfodaeth a monitro effeithiol, a gweithio'n agos ag Awdurdodau Lleol Cymru;
- Lleihau salwch a gludir gan fwyd - gweithio gyda diwydiant a gorfodwyr i leihau halogiad, a hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus o drin bwyd yn ddiogel;
- Sicrhau diogelwch bwyd - er enghraifft, trwy gyfrannu at weithgarwch y DU i sicrhau nad yw cemegolion yn cyfaddawdu diogelwch bwyd, a bod camau rheoli BSE yn cael eu gorfodi'n briodol;
- Cefnogi dewis i'r defnyddiwr - trwy labelu cynhyrchion yn gywir ac yn ystyrlon a thrwy roi gwybodaeth i'r cyhoedd am faterion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd, canlyniadau arolygon a gweithgarwch gorfodi.
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn goruchwylio ein gwaith. Sefydlwyd y Pwyllgor i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth yng Nghymru a'r cadeirydd yw John Spence. Mae'r cyfarfodydd pwyllgor agored, a gynhelir bob ychydig fisoedd mewn lleoliadau ledled y wlad, yn enghraifft o ymrwymiad ASB Cymru i weithredu'n agored.
Mae gan Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru wyth aelod arall, pob un yn darparu sylfaen o wybodaeth eang am faterion bwyd a materion sy'n ymwneud â bwyd. Gellir gweld bywgraffiadau'r holl aelodau ar y wefan hon - cliciwch ar 'Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru' ar brif ddewislen tudalen Cymru.
Find out more
Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Ein ffordd o Weithio
Mae'r ASB yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddeiet, maeth a diogelwch bwyd o'r fferm i'r fforc. Mae hefyd yn diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro bwyd yn effeithiol.
Polisi Iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn nodi bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru baratoi Cynllun yn amlinellu sut y bydd yn darparu'r gwasanaethau hynny yn yr iaith Gymraeg. Roedd Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf yr ASB yn weithredol rhwng 2002 - 2007 ac mae'r ASB bellach wedi rhoi ei hail gynllun ar waith ar gyfer 2008 - 2012.
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
O dan dermau'r ddeddfwriaeth, sefydlwyd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth ar faterion sy'n ymwneud â'i swyddogaethau yng Nghymru. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth ystyried cyngor y Pwyllgor Cynghori wrth gyflawni ei swyddogaethau neu gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol neu Weinidogion.
