Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl
Sunday 21 October 2007
Mae'r ASB wedi gwella'i Chynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl. Ma'’r fersiwn ddiwygiedig yn disgrifio sut yr ydym yn bwriadu gwneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl hyd at ddiwedd 2009.
Mae ein Cynllun yn disgrifio'r modd y defnyddiwyd gwybodaeth a ddarparwyd gan bobl anabl i wella ein Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2006. Mae hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu tair blynedd diwygiedig sy'n disgrifio'r camau y byddwn yn eu cymryd fel cyflogwr, ac wrth arfer ein swyddogaethau fel un o adrannau'r Llywodraeth.
Gan fod yr ASB yn awdurdod cyhoeddus, mae dyletswydd arnom i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005.
Mae Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl yr ASB ar gael ar y ddolen isod. I gael y ddogfen hon mewn fformat arall – megis Braille, print bras neu fersiwn sain - cysylltwch â Bethan Campbell i drafod eich anghenion:
Bethan Campbell
Strategy Division
Food Standards Agency
Aviation House
125 Kingsway
London WC2B 6NH
ffôn: 020 7276 8638
e-bost: bethan.campbell@foodstandards.gsi.gov.uk
Fel rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ddechrau 2007, aethom ati i ariannu gwaith ymchwil cymdeithasol i gasglu sylwadau pobl anabl am y problemau y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â bwyd. Mae'r adroddiad perthnasol i'w weld ar y ddolen isod.
Mae'r Gwasanaeth Hylendid Cig, sef asiantaeth weithredol sy'n perthyn i'r ASB, wedi datblygu ei Strategaeth Amrywiaeth Unedig ei hun. Mae rhagor o fanylion ar gael ar y ddolen isod.
