Yr Asiantaeth i adolygu ei chyngor ar bysgod
Friday 8 February 2008
Mae'r Asiantaeth wedi penderfynu adolygu ei chyngor ar fwyta pysgod mewn perthynas â chynaliadwyedd rhai mathau o bysgod.
Penderfynwyd gwneud hyn yn sgil pryder cynyddol am gynaliadwyedd stociau pysgod a'r effaith ehangach mae pysgota a ffermio pysgod yn ei gael ar yr amgylchedd. Mae hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad yr ASB i ystyried datblygu cynaliadwy yn ei holl waith a phenderfyniadau polisi.
Ar hyn o bryd, mae’r Asiantaeth yn cynghori defnyddwyr i fwyta mwy o bysgod a cheisio bwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos, gydag un ohonynt yn bysgodyn olewog. Gall pysgod olewog gynnwys lefelau isel o lygryddion sy'n gallu cronni yn ein cyrff, felly ni ddylai menywod beichiog a menywod sy'n bwydo ar y fron, merched a menywod sy'n gobeithio cael plant rhyw ddydd fwyta mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos. Gall pawb arall fwyta hyd at bedwar dogn yr wythnos.
Meddai Rosemary Hignett, Pennaeth Adran Faeth yr ASB: Rydym yn ymwybodol fod bwyta pysgod a chynaliadwyedd yn fater pwysig i lawer o ddefnyddwyr ac mae'r cyngor a roddir ar hyn o bryd yn gallu bod yn ddryslyd. Rydym am ymgynghori â rhanddeiliaid sydd â diddordeb, gan gynnwys adrannau eraill y Llywodraeth, grwpiau defnyddwyr ac iechyd, sefydliadau amgylcheddol a chynrychiolwyr y diwydiannau pysgota a bwyd.'
Bydd yr adolygiad yn gofyn am gyfraniad gan randdeiliaid, ac yn cynnwys proses ymgynghori drylwyr ac eang.
Y bwriad yw cyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad cyn diwedd 2008.
Mae cyngor presennol yr Asiantaeth ar fwyta pysgod a physgod cregyn i'w gael drwy'r ddolen isod (Saesneg yn unig am y tro).
