Amaeth
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am wella diogelwch bwyd ym mhob rhan o'r gadwyn fwyd. Mae hyn yn cynnwys gwella hylendid ar y fferm a sicrhau nad yw iechyd pobl yn cael ei beryglu o ganlyniad i'r hyn sy'n cael ei fwydo i anifeiliaid.
Mae mwy o wybodaeth ar gael isod...
Find out more
Asiantaeth yn helpu ffermwyr i atal gwenwyn plwm
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi creu taflen i ffermwyr, yn rhoi cyngor i’w helpu i ddiogelu eu da byw, eu busnes a’r DU rhag gwenwyn plwm. Mae digwyddiadau gwenwyn plwm yn cynyddu yn ystod y gwanwyn, pan gaiff anifeiliaid eu troi allan.
Canllawiau ar wybodaeth am y gadwyn fwyd (FCI) ar gyfer gwartheg, defaid a geifr
O 1 Ionawr 2010 ymlaen, bydd yn rhaid darparu gwybodaeth am y gadwyn gwyd (FCI) ar gyfer yr holl wartheg, defaid a geifr sy’n cael eu lladd er mwyn i bobl eu bwyta. Mae’r Asiantaeth wedi pennu’r FCI sy’n rhaid ei darparu, ac wedi ysgrifennu at weithredwyr busnesau bwyd perthnasol mewn lladd-dai yng Nghymru a Lloegr er mwyn rhoi’r wybodaeth hon iddynt.
Lleihau nicarbazin ymhlith dofednod o Brydain
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Cyngor Dofednod Prydain, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol wedi paratoi taflen i helpu perchnogion fferm, eu rheolwyr a’u gweithwyr i leihau gweddillion nicarbazin mewn ieir drwy ddefnyddio systemau gwell ar gyfer storio a dosbarthu bwyd anifeiliaid.
