Gweithio gydag ysgolion yng Nghymru
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru yn ymrwymo i ddatblygu ei rhaglen waith gydag ysgolion yng Nghymru. Mae’r Asiantaeth wrthi’n cydweithio ag ysgolion cynradd ac uwchradd i addysgu plant am bwysigrwydd diogelwch bwyd.
Ar hyn o bryd, mae’r ASB yn gweithio gyda phlant yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 2, ac yn fwy diweddar, gyda disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4. Mae rhan helaethaf y rhaglen yn canolbwyntio ar dri phrif brosiect: gweithdai ‘Crucial Crew’, gweithdai mewn ysgolion a chwrs e-ddysgu lefel 2 ar ddiogelwch a hylendid bwyd.
Find out more
Cwrs e-ddysgu diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer ysgolion
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2011/12, mae’r Asiantaeth yn noddi cwrs e-ddysgu sydd ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru sy’n dymuno cynnig hyfforddiant ‘Lefel II – Diogelwch a Hylendid Bwyd (Arlwyo)’ i ddisgyblion.
Foodbusters
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn lansio gêm gyfrifiadurol 'Foodbusters' sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw meithrin arferion diogelwch bwyd a hylendid da yn y gegin wrth drin bwyd.
Gweithdai mewn ysgolion
Mae’r ASB wedi bod yn cydweithio ag ysgolion cynradd yng Nghymru am nifer o flynyddoedd i gynnal gweithdai diogelwch bwyd. Ar hyn o bryd, caiff y gweithdai ‘theatr mewn addysg’ hyn eu cynnal gan gwmni addysg EdComs, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith ac sydd wedi datblygu gweithdai newydd a chyffrous.
Gweithdai ‘Crucial Crew’
Cyfres o weithdai yw ‘Crucial Crew’ a ddatblygwyd i roi gwybodaeth werthfawr i blant ysgolion cynradd am amrywiaeth eang o faterion a gwasanaethau diogelwch pwysig. Law yn llaw â phartneriaid allweddol megis awdurdodau lleol, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân, mae’r Asiantaeth wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ‘Crucial Crew’ ledled Cymru ers blynyddoedd.
Gêm ryngweithiol ‘Beryg B(y)wyd’
Mae’r Gêm Beryg B(y)wyd’ yn tynnu sylw at bwysigrwydd arferion hylendid da yn y cartref a’r gegin ac wrth drin a thrafod bwyd.
