E. coli O157: rheoli croeshalogi
Tuesday 15 February 2011
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer busnesau bwyd i egluro’r camau y mae angen iddynt eu cymryd i reoli'r risg o halogi bwyd gan E. coli O157 a beth y dylent ei wneud i ddiogelu eu cwsmeriaid.
Gall swyddogion diogelwch bwyd awdurdodau lleol hefyd ddefnyddio'r canllawiau wrth arolygu busnesau bwyd yn eu hardal.
Datblygwyd y canllawiau mewn ymateb i achosion difrifol o E. coli yng Nghymru yn 2005 ac yn yr Alban ym 1996. Yr hyn a arweiniodd at yr achosion o salwch oedd croeshalogi yn sgil hylendid gwael wrth drin bwyd.
Er bod y canllawiau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar E. coli O157, bydd y mesurau a ddisgrifir hefyd yn helpu i reoli bacteria eraill sy’n achosi gwenwyn bwyd, megis campylobacter a salmonela.
Mesurau allweddol
Mae’r canllawiau’n nodi bod angen y mesurau allweddol canlynol er mwyn rheoli E. coli:
- Nodi ardaloedd gwaith, arwynebau gwaith ac offer gwahanol ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta.
- Defnyddio offer cymhleth gwahanol, megis peiriannau pecynnu dan wactod, peiriannau sleisio a pheiriannau briwio ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd parod i’w bwyta.
- Dylid golchi dwylo gan ddefnyddio techneg gydnabyddedig. Nid yw defnyddio geliau gwrthfacterol yn lle golchi dwylo gyda dŵr a sebon yn ddigon da.
- Dylai diheintyddion a glanweithyddion (sanitisers) gydymffurfio â safonau cydnabyddedig a dylid eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr bob amser.
Gellir gweld y canllawiau llawn, a ddatblygwyd yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus ac adroddiad yr Athro Hugh Pennington ar yr achosion o E. coli yn 2005, drwy’r ddolen isod (Saesneg yn unig), ynghyd â thaflen ffeithiau i fusnesau sy’n rhoi crynodeb o’r canllawiau.
