Peidiwch â gadael i’r twrci ddifetha’r Nadolig
Wednesday 23 December 2009
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori pobl i beidio â golchi’r twrci y Nadolig hwn mewn ymgais i leihau’r perygl o wenwyn bwyd Nadoligaidd.
Mae gwaith ymchwil yr Asiantaeth wedi dangos bod llawer o bobl yn golchi’r twrci cyn ei goginio, gyda menywod hŷn fwyaf tebygol o wneud hyn . Ond mae golchi cig neu ddofednod yn gallu peri i facteria gwenwyn bwyd dasgu ar arwynebau gwaith, byrddau torri, llestri ac offer coginio, lle y gallant fyw am ddiwrnodau.
Mae twrci sydd heb ei ddadmer yn iawn hefyd yn gallu peri problemau dros yr ŵyl. Pan fydd y twrci wedi dadmer yn drylwyr, ni fydd unrhyw grisialau iâ ar ôl yn yr aderyn. Gallwch hefyd ddefnyddio fforc i weld a yw’r cig yn teimlo fel pe bai wedi’i rewi.
Bydd coginio trylwyr yn sicrhau bod bygiau gwenwyn bwyd yn cael eu lladd. Er mwyn sicrhau bod y twrci wedi’i goginio’n iawn, gwnewch yn siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo. Torrwch rhan fwyaf trwchus y twrci (sef rhwng y frest a’r glun) i wneud yn siŵr nad yw’r cig yn binc a bod y suddion yn rhedeg yn glir.
Meddai Rob Wilkins, Pennaeth Gorfodi Cyffredinol Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru:
“Mae coginio cinio Nadolig yn gallu teimlo fel porthi’r pum mil weithiau! Fel arfer, mae’r holl ymdrech yn talu ar ei ganfed ac mae popeth yn mynd yn iawn. Ond gan ein bod ni’n dueddol o goginio ar gyfer mwy o bobl nag arfer adeg y Nadolig, ac efallai’n coginio bwyd nad ydym ni’n ei goginio’n rheolaidd, gall fod mwy o berygl o weini dôs cas o wenwyn bwyd os nad ydym ni’n ofalus.
“Mae golchi’r twrci yn gamgymeriad cyffredin, a’r gwir yw nad oes angen ei wneud o gwbl. Nid yw golchi’r twrci mewn dŵr yn mynd i gael gwared ar y germau sy’n achosi gwenwyn bwyd. Ond fe fydd yr holl germau yn cael eu lladd os ydych chi’n coginio’r twrci’n drylwyr. Mewn gwirionedd, mae golchi eich aderyn amrwd yn fwy tebygol o ledaenu’r germau o gwmpas y gegin, na chael gwared arnynt.
“Mae’r cyngor hyn yr un mor bwysig wrth goginio twrci, gŵydd, hwyaden, cyw iâr neu ffesant.”
Yn ogystal â pheidio â golchi’r aderyn, ei ddadmer yn drylwyr ac yna’i goginio’n iawn, mae gan yr Asiantaeth rhagor o gyngor a fydd yn helpu i sicrhau na fydd gwenwyn bwyd yn difetha hwyl yr ŵyl:
- Peidiwch â phrynu gormod o fwyd os nad oes gennych chi le i’w storio. Os yw’r oergell wedi’i orlwytho â bwyd, mae’n debygol na fydd yn ddigon oer a byddwch chi mewn perygl o gael gwenwyn bwyd.
- Prynwch dwrci sydd o faint ymarferol ar gyfer eich anghenion – po fwyaf y twrci, yr anoddaf y bydd i’w baratoi a’i goginio’n ddiogel.
- Cofiwch gadw cig amrwd ar waelod yr oergell, a hynny mewn cynhwysydd wedi’i orchuddio fel na all ddiferu ar fwydydd eraill. Rhaid cadw cig a dofednod amrwd ar wahân i fwyd sy’n barod ei fwyta.
- Peidiwch â gadael bwffe neu fwyd parti allan drwy’r dydd. Mae’n well cynnig tipyn bach ar y tro, fel bod yr hyn sydd ar y bwrdd newydd ei goginio neu newydd ddod allan o’r oergell.
- Os ydych chi’n ailgynhesu’r twrci, neu unrhyw fwyd arall sydd dros ben, gofalwch ei fod yn chwilboeth drwyddo cyn i chi ei fwyta. A pheidiwch â’i ailgynhesu fwy nag unwaith. Yn ddelfrydol, dylech fwyta, coginio neu rewi bwyd sydd dros ben o fewn 48 awr.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi eich cinio Nadolig mewn ffordd ddiogel, neu i ddefnyddio cyfrifianellau dadmer a choginio’r Asiantaeth, ewch i eatwell.gov.uk a chliciwch ar ‘Cymraeg’. Neu anfonwch e-bost at arbenigwyr diogelwch bwyd Nadoligaidd yr Asiantaeth yn turkeymail@foodstandards.gsi.gov.uk
Nodiadau i Olygyddion (Saesneg yn unig)
- The Agency is running an informative campaign between 19 and 25 December on national and regional TV and commercial radio stations. They are jovial in style but have serious underlying messages about the preparation and cooking of turkey:
- don’t wash it (you don’t need to)
- defrost it thoroughly
- cook it properly
- The best way to avoid food poisoning is to follow the 4 Cs: Cooking, Chilling, Cleaning and avoiding Cross-contamination. More information can be found on the FSA website: eatwell.gov.uk.
According to Mintel’s most recent research into Christmas food, 2008:
- People spent £28.9 million on frozen Turkeys, compared to £25.7 million on fresh turkeys over Christmas (last 12 weeks of the year)
- 31% of consumers say they enjoy cooking at Christmas
- Turkey was the third most popular food item purchased for Christmas (48% of consumers purchasing) – beaten only by mince pies (58%) and boxed chocolates (51%)
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
