Gweithredu ar alergeddau bwyd
Friday 18 January 2008
Heddiw, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ganllawiau newydd i helpu busnesau bwyd i gynorthwyo cwsmeriaid sydd angen osgoi rhai cynhwysion arbennig oherwydd alergedd
Heddiw, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ganllawiau newydd i helpu busnesau bwyd i gynorthwyo cwsmeriaid sydd angen osgoi rhai cynhwysion arbennig oherwydd alergedd.
Cafodd y canllawiau newydd eu llunio ar gyfer busnesau sy’n gwerthu bwyd nad yw wedi ei bacio, megis mewn bwytai, caffis, cownteri deli, bariau brechdanau a phoptái. Maent yn rhan o waith cyfredol yr Asiantaeth i helpu busnesau i wella’r wybodaeth y maent yn ei darparu i’r cwsmeriaid hynny sydd ag alergedd neu anoddefgarwch tuag at rai bwydydd penodol.
Does dim gorfodaeth gyfreithiol ar fusnesau sy’n gwerthu bwyd wedi ei baratoi neu ei lapio ar eu safle i nodi a yw’r bwyd hwnnw’n cynnwys cynhwysion y gallai rhai pobl fod ag alergedd iddynt, megis cnau, gwenith neu wyau.
Mae llyfryn a phoster yn cyd-fynd â’r canllawiau hyn, ac maent yn cael eu hyrwyddo gan sefydliadau masnach sy’n cynrychioli manwerthwyr, arlwywyr a chyflenwyr y diwydiant arlwyo o fewn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â thrwy law swyddogion gorfodaeth Awdurdodau Lleol. Mae bob un o’r deunyddiau hyn yn rhoi cyngor ar ba gynhwysion a allai achosi problemau, ac ar sut i ymateb i gwestiynau cwsmeriaid yn eu cylch. Mae’r wybodaeth sydd yn y llyfryn a’r poster yn cael ei chyflwyno mewn arddull sy’n hawdd i’w darllen a’i deall.
Meddai Sue Hattersley, Pennaeth Polisi ar Alergedd Bwyd gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Mae nifer o fusnesau bwyd eisoes yn dda iawn am roi gwybod i’w cwsmeriaid os oes unrhyw gynhwysion yn eu bwydydd a allai achosi problemau o ran alergeddau. Fodd bynnag, rydym am i bob busnes fedru helpu cwsmeriaid sydd ag alergeddau bwyd.
“Mae angen i bawb o’r rhai hynny sydd yn paratoi ac yn gweini bwyd wybod am faterion perthnasol i alergedd bwyd, a gwybod hefyd am yr wybodaeth sydd ei hangen ar y cwsmeriaid a chanddynt wahanol alergeddau bwyd. Mae ein canllawiau newydd, ynghyd â’r llyfryn a’r poster, yn rhoi cyngor defnyddiol i fusnesau; a dylai roi fwy o hyder i’w cwsmeriaid hefyd.”
Cefndir
1. Amcangyfrifir bod oddeutu 1.5 miliwn o bobl yn y DU gydag alergedd bwyd neu anoddefgarwch bwyd. Sensitifedd tuag at fwyd yw’r ddau beth. Pan fo gan rywun alergedd bwyd, bydd ei system imiwn yn adweithio yn erbyn rhyw fath o fwyd penodol, fel pe na bai’r bwyd hwnnw’n ddiogel i’w fwyta. I bobl gydag alergedd bwyd difrifol, gallai bwyta a threulio’r bwyd beryglu eu bywyd. Nid yw anoddefgarwch bwyd yn ymwneud â system imiwn y corff, ac fel arfer nid yw’n ddigon difrifol i beryglu bywydau. Ond, pe bai rhywun yn bwyta bwyd y maent yn anoddefgar tuag ato, gallai hynny wneud iddynt deimlo’n sâl neu effeithio ar gyflwr hirdymor eu hiechyd.
2. Mae’r canllawiau, y llyfryn a’r poster ar gael i’w lawrlwytho ar wefan yr ASB:
www.food.gov.uk/foodindustry/guidancenotes/labelregsguidance/nonprepacked
ac mae hefyd ar gael o Dŷ Postio’r Asiantaeth.
3. Mae rhagor o wybodaeth ar alergeddau bwyd ar gael ar wefan Bwyta’n Iach yr Asiantaeth: www.eatwell.gov.uk/allergy
4. Cysylltwch â ni ar 02072 768 888 gydag ymholiadau o’r cyfryngau yn unig.
Ystafell 245, Aviation House, 125 Kingsway, Llundain WC2B 6NH.
Ffôn: 02072 768 888. ‘Pager’ y tu allan i oriau swyddfa: 07623 978 344. Ffacs: 02072 768 833
E-bost: press.mailbox@foodstandards.gsi.gov.uk
