Lansio ymgyrch 'Braster Dirlawn' i fynd i'r afael â chlefyd y galon
Tuesday 10 February 2009
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi lansio Ymgyrch Braster Dirlawn yr wythnos hon fel rhan o’i gwaith i wella iechyd y cyhoedd. Mae trigolion y Deyrnas Unedig yn bwyta 20% yn fwy o fraster dirlawn na’r hyn sy’n cael ei argymell gan y Llywodraeth.
‘‘Mae pobl yn dweud eu bod yn gwybod bod braster dirlawn yn ddrwg iddynt ond ni ydynt o reidrwydd yn gwneud y cysylltiad rhwng braster dirlawn, clefyd y galon a’r hyn y maent yn ei fwyta. Mae’n bwysig eu bod yn gwneud y cysylltiad hwnnw.’’
Bydd yr Ymgyrch yn hyrwyddo amrywiaeth o gamau syml ac ymarferol y gall pawb eu cymryd i leihau faint o fraster dirlawn sydd yn eu deiet gyda’r nod o wella eu hiechyd.
Yn y tymor hir, gall deiet sy’n cynnwys llawer o fraster dirlawn gynyddu lefelau colesterol y gwaed. Mae hyn yn ei dro yn gallu cynyddu’r risg o ddatblygu clefydau megis clefyd coronaidd y galon, trawiad ar y galon, angina a strôc. Mae clefyd coronaidd y galon yn lladd mwy o bobl yn y DU nag unrhyw beth arall – mae rhyw un o bob tri marwolaeth yn digwydd yn sgil hyn. Gallai lleihau’r braster dirlawn yn y deiet atal hyd at 3,500 o bobl rhag marw cyn eu hamser bob blwyddyn yn y DU.
Mae ymgyrch yr ASB yn cynnwys hysbyseb teledu 40-eiliad o hyd sy’n dangos bod braster dirlawn mewn amryw o fwydydd bob dydd. Mae’r hysbyseb yn cyfleu’n fyw sut y gall dyddodion brasterog effeithio ar y galon dros amser. Y lleoliad yw oergell gyffredin mewn cartref cyffredin. Mae jwg o fraster dirlawn yn cael ei arllwys i’r sinc, gan lenwi a blocio’r bibell. Mae’r neges yn glir – os gall braster dirlawn wneud hynny i beipen y sinc, dychmygwch beth y mae’n ei wneud i’ch rhai chi.
I gefnogi’r hysbysebion hyn, bydd cyfres o bosteri i’w gweld ar hyd ffyrdd Cymru yn cynnwys cyngor ar sut i fwyta llai o fraster dirlawn.
Mae’r achos dros yr ymgyrch hon yn cael ei hamlygu gan ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan yr ASB. Mae’n dangos bod bron hanner y DU (48%) yn meddwl nad oes angen iddynt boeni am faint o fraster dirlawn y maent yn ei fwyta cyn belled â’u bod, er enghraifft, yn gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, yn bwyta llawer o ffrwythau a llysiau, ac nad ydynt dros eu pwysau . Yng Nghymru, mae’r ffigur hyn mymryn yn uwch, sef 51%.
Meddai Tim Smith, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd: “Mae pobl yn dweud eu bod yn gwybod bod braster dirlawn yn wael i’w hiechyd, ond nid ydynt bob amser yn ei gysylltu â chlefyd y galon a’r hyn y maent yn ei fwyta. Mae’n bwysig gwneud y cysylltiad hwnnw, oherwydd mae clefyd y galon yn lladd mwy o bobl yn y DU nag unrhyw beth arall – bydd un o bob tri ohonom yn marw ohono.
Mae’n hawdd bwyta llai o fraster dirlawn a diogelu ein hiechyd. Mae angen i ni fwyta cig â llai o fraster arno, bwyta mymryn llai o gaws, dewis llaeth sy’n is mewn braster a bwyta byrbrydau mwy iachus, a bwyta llai o gacennau a bisgedi.
“Mae archfarchnadoedd a gweithgynhyrchwyr wedi bod yn gweithio’n galed fel bod mwy a mwy o fwydydd â llai o fraster dirlawn ynddynt ar gael i ni pan ydym yn siopa. Mae labeli wedi gwella hefyd, ac rydym yn awyddus i weld mwy o’r gweithgarwch hyn yn digwydd. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithio i wella’r amrywiaeth o fwyd iach sydd ar gael, a pharhau i fynd i’r afael â’r mater hollbwysig hwn er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.”
Meddai Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Wasanaethau Cymdeithasol: ‘Rwyf gant y cant tu ôl i ymgyrch braster dirlawn yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Bydd yn codi ymwybyddiaeth o effaith deiet sy’n uchel mewn braster dirlawn ar ein hiechyd ac yn helpu defnyddwyr yng Nghymru drwy gynnig awgrymiadau syml a chyngor wrth siopa, paratoi a choginio bwyd.
‘Rwyf hefyd yn cefnogi’r gwaith y mae’r Asiantaeth yn ei wneud gyda’r diwydiant bwyd, er mwyn darparu dewis ehangach o gynhyrchion iachach, sy’n ei gwneud yn haws i bob un ohonom fwyta deiet iachach.’
Yn ogystal â chefnogaeth gan archfarchnadoedd, gweithgynhyrchwyr ac arlwywyr pwysig, mae gwaith yr ASB hefyd yn cael ei gymeradwyo gan Sefydliad Prydeinig y Galon, Diabetes UK, Heart UK, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched a NetMums, er mwyn sicrhau bod pawb sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd y galon yn ymwybodol o’r ymgyrch hon.
Meddai Michael Livingston, Cyfarwyddwr HEART UK: ‘Mae’r Elusen Colesterol, HEART UK, yn llwyr gefnogi ymgyrch yr ASB i helpu pobl i ddeall sut y gall gormod o fraster dirlawn godi lefelau colesterol a chynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd.
‘Drwy ganolbwyntio ar gyngor a newidiadau syml, mae’r ymgyrch yn dangos pa mor hawdd yw hi i leihau’r braster dirlawn yn ein deiet. Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn fwy ymwybodol o’r camau bach y gallwn eu cymryd i leihau’r perygl ein bod ni, ac yn bwysicach fyth, ein teulu, yn datblygu clefyd y galon.'
I gael rhagor o wybodaeth am fraster dirlawn clicia yma neu i ddysgu mwy am fwyd diogel a bwyta'n iach yn gyffredinol, cer i'n gwefan Bwyta'n Iach ar www.eatwell.gov.uk - a chofia glicio ar 'Cymraeg'.

Share this with: