Lansio cwrs e-ddysgu Diogelwch a Hylendid Bwyd ar gyfer ysgolion
Monday 16 January 2012
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnig cwrs e-ddysgu ‘Lefel 2 mewn Diogelwch a Hylendid Bwyd (Arlwyo)’ i ysgolion yng Nghymru.
‘Mae’r disgyblion yn frwd ac mae un myfyriwr ym mlwyddyn 12 wedi llwyddo i gael swydd dydd Sadwrn ar sail y dystysgrif yn barod.’
Mae’r cymhwyster, sydd wedi’i achredu gan City and Guilds, yn gyfle perffaith i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau bywyd pwysig a hefyd yn gyfle gwych i’r rheiny sy’n gobeithio gweithio yn y diwydiant bwyd neu arlwyo ennill sgiliau gwerthfawr. Yn gyffredinol, mae’r cwrs fwyaf addas ar gyfer disgyblion 14 oed a hŷn. Ar ôl llwyddo i gwblhau’r hyfforddiant, mae myfyrwyr yn derbyn tystysgrif.
Mae’r cwrs ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion yng Nghymru, er bod cyllid yn gyfyngedig, a chaiff athrawon eu cynghori i gysylltu â’r ASB drwy ddefnyddio’r manylion isod cyn gynted â phosibl, fel nad ydynt yn cael eu siomi. Gwahoddir ceisiadau gan ysgolion yng Nghymru sy’n llwyddo i ddangos eu hymrwymiad i gefnogi astudiaethau myfyrwyr.
Meddai Helen George, sy’n arwain ar y prosiect i’r ASB: “Mae’r cwrs yn gyfle i fyfyrwyr wella’u gwybodaeth am ddiogelwch bwyd, datblygu sgiliau bywyd pwysig ac ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn eang o fewn y diwydiant arlwyo.”
Cafodd dros ddwsin o ysgolion yng Nghymru y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect peilot ar gyfer y cymhwyster hwn. Dyma ambell i sylw gan rhai o’r athrawon:
"Diolch am y cyfle hwn. Mae’r disgyblion yn frwd ac mae un myfyriwr ym mlwyddyn 12 wedi llwyddo i gael swydd dydd Sadwrn ar sail y dystysgrif yn barod.” (Ysgol Gyfun Radur)
"Mae gen i 17 o fyfyrwyr yn fy ngrŵp ac mae pob un wedi mynegi diddordeb mawr, ac yn ei weld fel cymhwyster ychwanegol." (Ysgol Croesyceiliog)
Os ydych chi’n credu y byddai gan eich ysgol ddiddordeb, cysylltwch â:
Helen George ar 02920 678907, e-bost: helen.george@foodstandards.gsi.gov.uk neu
David Burley ar 02920 678956, e-bost: david.burley@foodstandards.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs e-ddysgu ar Ddiogelwch a Hylendid Bwyd a’i gynnwys, cliciwch ar y ddolen isod.

Am rannu hwn?