Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Ail rifyn cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol: Podlediad

Croeso i bodlediad cyntaf Rheoleiddio ein Dyfodol. Mae'n ddiwedd y flwyddyn, ac yn amser da i ystyried lle rydym ni a beth rydym ni wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn newydd.

Rydym yn ymrwymo i roi diweddariad rheolaidd i chi ar y gwaith y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei wneud ar ddyfodol rheoleiddio bwyd. Drwy ein cylchlythyr a’n podlediad rheolaidd, byddwn yn parhau i roi gwybod i chi am ein cynlluniau a'n cynnydd, pwy rydym ni wedi bod yn siarad â nhw, beth rydym ni wedi ei glywed, a beth fydd yn digwydd nesaf. 

Gallwch glywed am y rôl y bydd awdurdodau lleol yn ei chwarae o fewn y model rheoleiddio newydd, cefnogaeth y Llywodraeth i'r rhaglen, a'r effaith y bydd ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd yn ei chael. Bydd hefyd yn edrych ar lwyddiant y flwyddyn ddiwethaf ac yn trafod sut y mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn cyd-fynd â'r rhaglen, ac yn nodi'r cynlluniau am y flwyddyn i ddod. Rydym hefyd yn sôn am waith tîm rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol ac yn edrych yn ôl ar y cynnydd a wnaed dros y rhai misoedd diwethaf. 

Diolch am roi eich amser i glywed y diweddaraf am y datblygiadau. Byddwn yn cynhyrchu podlediad arall ym mis Chwefror, ond cofiwch gadw llygad am ein cylchlythyr ym mis Ionawr, lle byddwn yn rhoi diweddariad i chi ar ddatblygiadau'r rhaglen.

Rydym yn parhau i annog y rheiny sydd â diddordeb i rannu eu syniadau a'u pryderon â ni, er mwyn ein galluogi i gasglu safbwyntiau a gwybodaeth sy'n bodoli eisoes mewn modd agored a thryloyw.Bydd y dull agored hwn yn golygu y gallwn ddylunio'r model rheoleiddio mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau system fwyd modern a byd-eang.