Chris Hitchen – Cyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Diweddarwyd ddiwethaf

Ymunodd Chris Hitchen â'r Asiantaeth ym mis Ionawr 2010. Cyn hynny, roedd yn Bennaeth Cyllid yn Santander.

Graddiodd Chris mewn Cyfrifeg a Chyllid ym 1992 ac enillodd ei gymhwyster Cyfrifeg Rheoli Siartredig (ACMA) tra’r oedd yn gweithio i Yorkshire Water ym 1996. Yna, treuliodd ddwy flynedd mewn rôl gyllid gydag MD Foods plc (Arla Foods UK erbyn hyn).  Ymunodd â GE Capital ym 1998, gan weithio mewn amrywiaeth o rolau cyllid, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Cyllid Auto UK. Roedd yn rhan o’r tîm rheoli yno a arweiniodd y broses o werthu’r busnes i Santander yn 2009.