Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Gwasanaeth Rhybuddion

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd ein gwasanaeth rhybuddion, pam fod angen y data arnom, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithredu fel 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gallu anfon hysbysiadau trwy e-bost neu SMS at bobl sydd wedi tanysgrifio i gael rhybuddion bwyd, rhybuddion alergedd, ein newyddion a'n hymgynghoriadau.

Rydych chi wedi cytuno i roi'r wybodaeth hon i ni. Gallwch chi ddatdanysgrifio o’r gwasanaeth ar unrhyw adeg.

Trwy gofrestru rydych chi hefyd yn rhoi caniatâd i dderbyn gwybodaeth a rhybuddion eraill gennym ni.

Gall y rhain gynnwys diweddariadau ar:

  • gwybodaeth yn ymwneud â phynciau yr ydych wedi’u dewis wrth danysgrifio
  • diweddariadau cyffredinol ar y wefan/gwasanaethau
  • ein harolygon defnyddwyr

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Byddwn ni'n cadw gwybodaeth bersonol tan i chi ddatdanysgrifio o’r gwasanaeth hwn neu tan yr adeg y daw’r manylion cyswllt yr ydych chi wedi’u darparu yn annilys. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Trosglwyddiadau rhyngwladol


I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.