Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd, pam fod angen y data arnom, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam mae angen yr wybodaeth hon?

Mae angen i ni gasglu'r data hwn er mwyn gallu Casglu a Chyfathrebu Canlyniadau Arolygu, sef gwybodaeth a ddarperir i'r cynhyrchwr i gychwyn unrhyw gamau sy'n ofynnol ar y fferm er mwyn gwella iechyd a lles anifeiliaid, ac yn ei dro, diogelwch bwyd.

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Safonau Bwyd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Mae darparu'r data hwn i ni yn ofyniad statudol a gallai methu â darparu'r wybodaeth arwain at fethu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ganlynol: (CE) 852/2004, (CE) 853/2004 a (CE) 854/2004, ac fel y'u dargedwir yn neddfwriaeth y Deyrnas Unedig. 

Efallai y byddwn ni hefyd yn dadansoddi'r data hwn ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth a gawsom o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg. Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 6 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, mae'n bosibl bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Adran yr Amgylchedd a Datblygu Gwledig (DARD), Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban.

Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd. Efallai y byddwn ni hefyd yn rhannu'r data fel rhan o waith gwerthuso a dadansoddi risg gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, fel Safonau Masnach ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, am yr un rhesymau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) 

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, gweler adran dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.