Pwyllgorau gwyddoniaeth

Mae gwaith y pwyllgorau a'r gweithgorau annibynnol sy'n ein cynghori ni yn helpu i sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr bob amser yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau a mwyaf diweddar.
Diweddarwyd ddiwethaf

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF) yn cynghori ar ddiogelwch a defnyddio bwydydd anifeiliaid ac arferion bwydo, gyda phwyslais arbennig ar ddiogelu iechyd pobl, a thrwy gyfeirio at ddatblygiadau technegol newydd.

Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd 

Mae'r Pwyllgor Cynghorau ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP) yn gorff anstatudol o arbenigwyr gwyddonol annibynnol sy'n cynghori'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar unrhyw faterion sy'n ymwneud â bwydydd newydd (gan gynnwys bwydydd wedi'u haddasu'n enetig) a phrosesau newydd (gan gynnwys arbelydru bwyd).

Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd yn rhoi cyngor arbenigol i'r Llywodraeth ar gwestiynau sy'n ymwneud â materion microbiolegol a bwyd.

Pwyllgor ar Wenwyndra

Mae'r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a'r Amgylchedd (COT) yn bwyllgor gwyddonol annibynnol sy'n rhoi cyngor i'r ASB, yr Adran Iechyd ac Adrannau ac Asiantaethau eraill y Llywodraeth ar faterion sy'n ymwneud â gwenwyndra cemegau. 

Pwyllgor ar Garsinogenedd (Carcinogenicity)

Mae'r Pwyllgor ar Garsinogenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a'r Amgylchedd yn asesu ac yn rhoi cyngor ar risg carsinogenig i bobl.

Pwyllgor ar Fwtagenedd

Mae'r Pwyllgor ar Fwtagenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a'r Amgylchedd (COM) yn asesu ac yn cynghori ar risgiau mwtagenig i bobl. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y pwyllgor ar fwtagenedd ar GOV.UK.

Cyngor Gwyddoniaeth

Mae Cyngor Gwyddoniaeth yr ASB yn bwyllgor arbenigol annibynnol o'r ASB, sy'n cynnwys Cadeirydd a saith aelod.

Pwyllgor Cynghori Traws Gwyddonol

Sefydlwyd gweithgor y Pwyllgor Cynghori Traws Gwyddonol (SAC) ar y fframwaith ar gyfer bwydydd sy'n peri risg yn 2016, gydag aelodau yn dod o bedwar Pwyllgor Cynghori Gwyddonol yr ASB.  

Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol 

Sefydlwyd y Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol (VPC) i gynghori ar ddiogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd meddyginiaethau milfeddygol, ac i ystyried adroddiadau am adweithiau niweidiol i feddyginiaethau milfeddygol o dan amheuaeth.

Pwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd

Disodlwyd y Pwyllgor Gweddillion Plaladdwyr (PRiF) gan Bwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd. Maent yn darparu cyngor gwyddonol annibynnol ar weddillion plaladdwyr ym mwyd y Deyrnas Unedig (DU).

Mae'r Pwyllgor yn cynghori Gweinidogion a'n Prif Weithredwyr a'r Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegion (CRD) ar gynllunio rhaglenni gwyliadwriaeth ar gyfer gweddillion plaladdwyr yng nghyflenwad bwyd y DU a gwerthuso'r canlyniadau, a gweithdrefnau ar gyfer samplu, prosesu samplau a dulliau dadansoddi newydd.

Pwyllgor Cynghori ar Blaladdwyr  

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Blaladdwyr (ACP) yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion ar bob mater sy'n ymwneud â rheoli plaladdwyr. Mae'r aelodau'n darparu cyngor gwyddonol ar ddefnydd diogel ac effeithiol o blaladdwyr a dulliau rheoli plâu eraill.

Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus

Mae Is-grŵp Asesu Peryglon TSE y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus (ACDP) wedi'i sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol annibynnol yn y maes hwn i'r ASB ac adrannau eraill, yn dilyn diddymu'r Pwyllgor Cynghori Enseffalopathi Sbyngffurf (SEAC) yn 2011.

Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth

Mae'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) yn Bwyllgor Ymgynghorol ledled y DU yn lle'r Pwyllgor ar Agweddau Meddygol Polisi Bwyd a Maeth (COMA).

Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymdeithasol

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymdeithasol yn bwyllgor arbenigol annibynnol o'r ASB.

Mae'n darparu cyngor strategol arbenigol i'r ASB ar ei defnydd o'r gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys dulliau, prosesau a systemau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg i holi data, i gyflawni amcanion yr ASB. Ei bwrpas yw helpu'r ASB i ddefnyddio'r gwyddorau a'r dulliau hyn o lunio a chyflawni ei hamcanion strategol a deall ei heffaith.

Pwyllgorau sydd wedi dod i ben

Yn dilyn adolygiad o bwyllgorau cynghori gwyddonol, disodlwyd Pwyllgor Cynghori Cyffredinol ar Wyddoniaeth (GACS) gan Gyngor Gwyddoniaeth newydd ar 1 Ebrill 2017 a'r Pwyllgor Ymchwil Gwyddoniaeth Gymdeithasol (SSRC) gan Bwyllgor Cynghori ar gyfer Wyddoniaeth Cymdeithasol (ACSS) ym mis Ebrill 2018.