Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Rod Ainsworth, Cyfarwyddwr Strategaeth Rheoleiddiol a Chyfreithiol

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Ymunodd Rod Ainsworth â’r Asiantaeth ar 6 Ebrill 2010 fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol ar gyfer yr Affinity Sutton Group, swydd yr oedd wedi bod ynddi ers 2006.

Mae Rod wedi ymarfer fel cyfreithiwr ers 1981 ac wedi gweithio i Fwrdeistrefi Harrow a Brent yn Llundain. Ym 1986, daeth yn bartner mewn cwmni cyfraith yn Llundain gan arbenigo mewn cynllunio, datblygu a’r sector cyhoeddus. Ym 1995, ymunodd â'r Comisiwn Archwilio fel cyfreithiwr lle'r oedd yn rhan o achos 'cartrefi er pleidleisau' San Steffan a chreu Arolygiaeth y Comisiwn Archwilio. Yn 2004, daeth yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol ac Ysgrifennydd Cwmni ar gyfer William Sutton.