Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Steve Wearne (ar secondiad)

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cyfarwyddwr Materion Byd-eang yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Steve Wearne

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Ar hyn o bryd mae Steve Wearne yn Gadeirydd Comisiwn Codex Alimentarius (CAC), y corff sy’n gosod safonau ansawdd a diogelwch bwyd yn fyd-eang. Cafodd ei ethol ym mis Tachwedd 2021 ac mae ar secondiad o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). 

Gallwch chi ddarllen tair blaenoriaeth Steve ar gyfer Codex yn ei flog. 

Mae Steve wedi cael nifer o rolau Cyfarwyddwr yn yr ASB. Bu’n Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru rhwng 2007 a 2013 ac yna’n Gyfarwyddwr Polisi a Gwyddoniaeth. Daeth Steve yn Gyfarwyddwr Materion Byd-eang ym mis Medi 2019, rôl a oedd yn ymgorffori ei swydd fel Is-Gadeirydd CAC (etholwyd Gorffennaf 2017). 

Hyfforddodd Steve fel gwyddonydd, gyda gradd mewn biocemeg a chyfnod ymchwil ôl-raddedig mewn bioleg moleciwlar. Ymunodd â’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ym 1990 gan ymgymryd â nifer o swyddi mewn gwyddor bwyd a datblygu polisi bwyd, cyn trosglwyddo i’r ASB pan gafodd ei lansio yn 2000. Ei swydd gyntaf yn yr ASB oedd Pennaeth y Swyddfa Breifat ac Ysgrifennydd Preifat i Gadeirydd cyntaf yr Asiantaeth, Syr John Krebs (yr Arglwydd Krebs erbyn hyn).