11fed Cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol

Croeso i'r 11fed Cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol. Yn y rhifyn hwn, rydym ni'n canolbwyntio ar y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud ar ein Strategaethau Arolygu Cenedlaethol a'r camau nesaf ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth digidol. Mae'r rhain yn rhannau sylweddol o'n cynllun cyffredinol ar gyfer fframwaith rheoleiddio wedi'i foderneiddio.
Diweddarwyd ddiwethaf

Y mis diwethaf, cytunodd y Bwrdd ar y tair safon allweddol a fydd yn ategu ein menter strategaethau arolygu cenedlaethol. Mae'r safonau hyn yn hanfodol bwysig gan y byddant yn pennu sut ydym ni'n cydnabod i ba brif awdurdod y mae busnes yn perthyn iddo a sicrhau pobl bod eu bwyd yn ddiogel. 

Rydym ni hefyd newydd gyhoeddi ein papur diweddaraf am y rhaglen yn ei chyfanrwydd. Teitl y papur yw "Newid rheoleiddio bwyd: yr hyn yr ydym wedi'i wneud, lle rydym ni'n mynd nesa" ac mae'n amlinellu'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud o ran darparu Strategaethau Arolygu Cenedlaethol a Chofrestru Manylach; sut mae ein gwaith ar reoleiddio sicrwydd preifat yn mynd rhagddo; y dull a weithredwn tuag at gynllunio model cyllido cynaliadwy ar gyfer y drefn newydd; a'n hymdrechion newydd i'w gwneud hi'n orfodol arddangos Sgoriau Hylendid Bwyd mewn safleoedd bwyd yn Lloegr. Gwnaethom lansio'r papur yn ein derbyniad seneddol yn gynharach yn y mis lle y gwnaethom ni hefyd ddangos sut mae ein gwasanaeth cofrestru ar-lein yn gweithio'n ymarferol. 

Ac yn olaf, yn gynharach yn y mis, gwnaethom ffarwelio â Nina Purcell, sydd wedi ymddeol o'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Dymunaf bob hwyl iddi hi yn ei hymddeoliad, gan groesawu Maria Jennings, Cyfarwyddwr Cydymffurfio, Pobl a Gogledd Iwerddon sydd wedi cymryd yr awenau.

Heather Hancock
Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Strategaethau Arolygu Cenedlaethol y Prif Awdurdod

Rydym ni wedi cyhoeddi gwerthusiad o'n gwaith ar y Strategaethau Arolygu Cenedlaethol (NIS) a safonau drafft y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol a phartneriaethau busnes eu bodloni os ydynt am i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gydnabod NIS ganddynt ar gyfer hylendid bwyd.

Mae NIS wedi bodoli fel cysyniad ers cyflwyno Prif Awdurdodau, ond nid oes NIS wedi'i datblygu ar gyfer partneriaethau bwyd hyd yn hyn. Rydym ni'n gweld potensial i NIS fod yn rhan o'n gwaith i gydnabod busnesau bwyd sy'n cydymffurfio ac sy'n dryloyw, a helpu awdurdodau lleol i ganolbwyntio eu gweithgarwch ar y busnesau bwyd hynny sy'n perfformio'n wael neu sydd angen mwy o gymorth. 

Y treial canfod llwybr a gyhoeddwyd gennym y mis diwethaf yw'r cam cyntaf i ystyried a all rheoleiddwyr awdurdodau lleol ddefnyddio data busnes i ragfynegi sut mae busnesau'n cydymffurfio â rheoliadau hylendid. Gwelsom fod 80% o'r sgoriau hylendid bwyd a ragwelwyd yn seiliedig ar ddata busnes bwyd yr un fath â'r sgôr a ddyfarnwyd gan awdurdod lleol yn dilyn arolygiad. Mewn achosion pan nad oedd y sgôr a ragwelwyd yn cyd-fynd â'r sgôr a ddyfarnwyd, rydym yn awyddus i weld pam oedd hyn, a beth y gallwn ei ddysgu o'r treial. Rydym ni'n dysgu o'r gwerthusiad canfod llwybr a byddwn ni'n dilyn hyn ag argymhellion yr adroddiad.  

Hefyd, rydym ni wedi cyhoeddi tair safon ddrafft a fydd yn sicrhau bod pawb sy'n rhan o NIS yn bodloni safonau cadarn a heriol. Mae'n bwysig cofio, os na fydd pawb sy'n cymryd rhan yn bodloni ein safonau cadarn a heriol, ni fyddwn yn cydnabod yr NIS. Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu y byddai safleoedd unigol y busnesau'n parhau i gael eu harolygu gan awdurdodau lleol fel y maent ar hyn o bryd. 

Mae nifer fach o bartneriaethau prif awdurdodau yn Lloegr wrthi'n ystyried datblygu NIS lle bydd y prif awdurdod yn defnyddio data a gwybodaeth fusnes i lywio amlder arolygiadau bwyd lleol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni fireinio'r safonau drafft wrth brofi sut maent yn gweithio'n ymarferol – ar gyfer y bartneriaeth prif awdurdod, awdurdodau lleol a'r ASB wrth 'sicrhau'r aswirwyr (assurers)’.

Mae ein gwaith yn dal i gael ei ddatblygu, ac rydym ni'n croesawu adborth gan yr holl randdeiliaid ar y safonau drafft a'n gwaith hyd yn hyn. 

Cewch ragor o wybodaeth am ein gwaith ar strategaethau arolygu cenedlaethol y prif awdurdod yma neu gwyliwch yr animeiddiad hwn isod:

Paratoi Awdurdodau Lleol at newidiadau i'r broses o gofrestru busnes bwyd

Rydym ni wedi dechrau gweithredu'r gwasanaeth cofrestru busnesau bwyd ar-lein ac mae nifer o Awdurdodau Lleol yn cymryd rhan ac wrthi'n defnyddio'r gwasanaeth digidol. Mae'r rhain yn cynnwys: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Partneriaeth Cynghorau Dorset yn gwasanaethu: Cyngor Dosbarth Gogledd Dorset, Cyngor Dosbarth Gorllewin Dorset a Chyngor Bwrdeistref Weymouth a Portland, Cyngor Dosbarth Purbeck, Cyngor Bwrdeistref Canolbarth a Dwyrain Antrim a'r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. 

Hyd yn hyn, mae bron 30 o fusnesau bwyd newydd wedi cyflwyno ceisiadau cofrestru drwy'r gwasanaeth, gyda phobl yn defnyddio ffonau clyfar, gliniaduron a llechi cyfrifiadurol i gwblhau'r cofrestriad. 

Meddai Becky Pomeroy, Arweinydd Tîm Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 

"Fel awdurdod lleol peilot, rhoddwyd y cyfle i ni brofi a chysylltu â'r gwasanaeth cofrestru ar-lein newydd. Mae manylion cofrestru a roddir ar-lein gan weithredwr busnes bwyd bellach yn cael eu storio'n syth ar ein system rheoli gwybodaeth i'w dilysu. Nid oes angen i ni fewnbynnu manylion safleoedd newydd i'r system â llaw, a gall hyn arbed hyd at 15 munud fesul cofrestriad i'r swyddog. Mae'r system yn nodi'n gywir ddyddiad agor busnes ac yn cynllunio arolygiad yn unol â hynny. Hefyd, rwyf wedi gofyn i weithredwr busnes bwyd fynd ar-lein a chofrestru eu manylion yn ffurfiol yn ystod arolygiad gan gael gwared ar yr angen i geisio gwybodaeth nes ymlaen." 

Rydym ni'n derbyn adborth da gan awdurdodau lleol peilot a defnyddwyr er mwyn helpu i ddatblygu'r gwasanaeth beta hwn ymhellach. Yn benodol, y manteision o storio'u data cofrestru'n uniongyrchol ar eu systemau rheoli gwybodaeth. 

Rydym ni'n gweithio gyda phrif ddarparwyr systemau rheoli gwybodaeth awdurdodau lleol i gyflwyno'r gwasanaeth newydd. Rydym ni hefyd yn cydnabod efallai bod gan rai awdurdodau lleol eu systemau annibynnol eu hunain a byddwn ni'n datblygu dulliau i sicrhau eu bod nhw'n gallu defnyddio'r gwasanaeth a gyflwynir. 

Bydd API cofrestru, sef y dull safonol ar gyfer symud data rhwng systemau a sefydliadau, yn galluogi systemau rheoli gwybodaeth awdurdodau lleol i ddefnyddio cofrestriadau busnesau bwyd a fewnbynnwyd ar ffurflenni gwe newydd yr ASB. Rydym ni'n gweithio gyda darparwyr systemau rheoli gwybodaeth Awdurdodau Lleol i addasu eu cynhyrchion, fel y gallant fewnbynnu cofrestriadau'n ddiogel drwy'r API. 

Yn ddiweddar, gwnaethom ni ddosbarthu arolwg wedi'i fwriadu ar gyfer Uwch-arweinwyr TG Awdurdodau Lleol i wella ein dealltwriaeth o'r dirwedd TG. Rydym ni'n gofyn am eich cefnogaeth chi wrth ofyn i arweinwyr TG lenwi'r arolwg, gan y bydd hyn yn ein helpu i hwyluso'r cyfnod pontio i'r gwasanaeth cofrestru digidol newydd.

Dros y misoedd nesaf byddwn ni'n cyflwyno'r gwasanaeth digidol yn raddol i Awdurdodau Lleol eraill, gyda'r nod o gael o leiaf 40 yn ei ddefnyddio erbyn mis Ebrill 2019.