Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adolygiad o Ffatrïoedd Torri Cig a Storfeydd Oer

Yr hyn y mae angen i chi wybod am adolygiad sy’n cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban o ffatrïoedd torri a storfeydd oer y Deyrnas Unedig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Gorffennaf 2018
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Gorffennaf 2018
Gweld yr holl ddiweddariadau

Diben yr adolygiad

Mae'r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn gyfrifol am roi sicrwydd i ddefnyddwyr bod pob busnes bwyd yn y sector yn bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i gynhyrchu bwyd diogel, dilys sy'n bodloni safonau hylendid a lles.

Mae'r adolygiad, a gyhoeddwyd ar 1 Chwefror 2018, yn ceisio gwella lefelau hyder y cyhoedd o ran diogelwch a dilysrwydd cig y Deyrnas Unedig (DU) a nodi gwelliannau posibl yn y ffordd y mae'r sector yn cael ei reoleiddio yn sgil achosion o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd mewn gwahanol ffatrïoedd torri.

Cyhoeddi Papur Bwrdd ac Adolygiad drafft 

Cyhoeddwyd canfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad Ffatrïoedd Torri Cig a Storfeydd Oer ar y cyd, ddydd Iau 11 Hydref 2018. Mae’r adroddiad yn cynnwys 19 argymhelliad ynghyd â chynllun gweithredu yn cynnig sut y bydd newidiadau yn cael eu rhoi ar waith. 

Cynhaliodd Byrddau dau reoleiddiwr bwyd y Deyrnas Unedig (DU) eu cyfarfod cyntaf ar y cyd yng Nghaeredin ddydd Mercher 17 Hydref 2018 i drafod Adolygiad ledled y DU o ffatrïoedd torri cig a storfeydd oer. Mae rhagor o fanylion am y cyfarfod a fideo o'r cyfarfod ar gael ar dudalen cyfarfod bwrdd Hydref 2018 yr ASB

Yn dilyn trafodaeth yn croesawu’r Adolygiad a’r ymgysylltu â rhanddeiliaid dros y chwe mis blaenorol, cymeradwyodd y ddau Fwrdd y gwelliannau ar gyfer eu gwledydd priodol yn llawn. 

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

 

Llinellau amser a chynnydd

Mae'r adolygiad wedi'i rannu'n dri cham:

Cam 1 – Mawrth i Fehefin 2018

Canolbwyntio ar ddeall y sefyllfa bresennol, cymharu trefniadau sydd ar waith ar gyfer y pedair gwlad (Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr) a thynnu sylw at feysydd i'w gwella sy'n dod i'r amlwg. Cafodd y canfyddiadau o’r gwaith hwn eu cyhoeddi mewn papur diweddaru yn rhan o gyfarfod bwrdd yr ASB ym mis Mehefin a oedd yn cynnwys y cylch gorchwyl. 

Cam 2 – Mehefin i Hydref 2018

Canolbwyntio ar ddilysu canfyddiadau Cam 1 ac archwilio goblygiadau'r canfyddiadau ar fusnesau bwyd. Gwnaethom ni weithio gyda'r sector i nodi ac asesu opsiynau ar gyfer gwella, datblygu argymhellion, a pharatoi cynllun gweithredu i'w gyflwyno i Fwrdd yr ASB a Bwrdd Safonau Bwyd yr Alban.

Fel rhan o’r broses, gwnaethom ni ddosbarthu arolygon i gasglu tystiolaeth i awdurdodau lleol a busnesau bwyd a chafodd chwe gweithdy eu cynnal ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i gyd-ddatblygu argymhellion ar gyfer newid ac i ystyried sut i’w gweithredu. 

Cam 3 – Hydref 2018 ymlaen

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad terfynol, rydym ni'n ystyried ein hymateb ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, a byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu argymhellion cytunedig yr adolygiad.

Goruchwyliaeth y Bwrdd Prosiect a'r Grŵp Herio

Er mwyn helpu i sicrhau bod gan waith yr adolygiad yr oruchwyliaeth a’r cymorth gofynnol, mae grwpiau mewnol ac allanol wedi cael eu sefydlu. 

Mae'r Bwrdd Prosiect yn cynnwys uwch staff yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ac fe'i sefydlwyd i arwain a goruchwylio gwaith yr adolygiad. Maent wedi darparu arweiniad ac argymhellion gan gynnwys: Maent wedi darparu arweiniad ac argymhellion gan gynnwys:

  • egluro cwmpas a llywodraethiant yr adolygiad
  • cadarnhau dull gweithredu yr adolygiad a'r drefniadaeth
  • cadarnhau cyllid ac ystyried risgiau i gynnal yr adolygiad yn effeithiol
  • cytuno ar ymgysylltu â rhanddeiliaid a dull cyfathrebu

Sefydlwyd y Grŵp Herio i graffu ar waith yr adolygiad ac mae bellach wedi cyfarfod dair gwaith ers mis Ebrill, gyda chyfarfod pellach wedi'i drefnu ym mis Awst.

Mae pob aelod o'r grŵp yn dod ag ystod eang o brofiad lefel uchel ar draws ystod amrywiol o rolau sector cyhoeddus ac mae ganddynt y gallu a'r awdurdod i herio'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal, gan ddod â'u safbwyntiau a'u profiad o'r tu allan. 

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am yr aelodaeth a gwaith y grŵp wrth edrych ar gyhoeddiad ar y Grŵp Herio.

Gweithdai rhanddeiliaid

Cynhaliodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban chwe gweithdy ar draws y DU gydag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn helpu i nodi materion cyffredin yn y diwydiant cig a datblygu syniadau ar gyfer rhai atebion posibl. Gweler isod adroddiad yn crynhoi'r adborth a gafwyd gan y rhai a oedd yn bresennol. 

England, Northern Ireland and Wales

Cysylltu â'r tîm adolygu

Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu gwestiynau am yr adolygiad a'r materion a drafodwyd yn y diweddariad hwn, anfonwch e-bost atom ni CPCS.Review@food.gov.uk.