Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr Arglwydd Blencathra – Aelod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Lord Blencathra

Mae’r Arglwydd Blencathra wedi bod yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi ers 2011. Ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio, ac mae’n gwasanaethu ar Gyngor Ewrop. Mae hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Natural England.

Roedd yr Arglwydd Blencathra yn Aelod Seneddol rhwng 1983 a 2011 ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n Weinidog yn y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, Adran yr Amgylchedd, a’r Swyddfa Gartref.

Cyfyngiadau ar ei weithgarwch gwleidyddol wrth iddo wasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Buddiannau Personol

  • Dim

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Aelod o Dŷ’r Arglwyddi. Yn cael ei dalu fesul diwrnod ar sail presenoldeb
  • Dirprwy Gadeirydd Natural England
  • Aelod o Fwrdd y Cwmni Buddiannau Cymunedol, “Clean Streets”

Rolau heb dâl

  • Aelod Bwrdd y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur. Yn ddi-dâl, ond fe’m penodwyd i’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur am fy mod yn Ddirprwy Gadeirydd Natural England
  • Aelod o Bwyllgor Cyswllt Tŷ’r Arglwyddi
    Is-Gadeirydd y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer y Diwydiant Gwin a Gwirodydd. Cynrychiolydd i Gyngor Ewrop. Yn ddi-dâl ond mae Tŷ’r Arglwyddi yn talu treuliau a thâl presenoldeb

Gwaith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau 

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Amaethyddol Penrith
  • Aelod o Gymdeithas Geidwadol Penrith a’r Gororau
  • Aelod o Gymdeithas Geidwadol San Steffan
  • Aelod o'r Gymdeithas  Arglwyddi Ceidwadol

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn bersonol

  • Dim

Cymrodoriaethau

  • Dim

 Cefnogaeth anuniongyrchol

  • Dim

 Ymddiriedolaethau

  • Dim

 Tir ac eiddo

  • Dim

 Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim