Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Catherine Bowles, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, y Gyfraith a Llywodraethu

Mae Catherine wedi gweithio gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ers ei chreu. Daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr – Strategaeth Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE), Rheoleiddio a’r Gyfraith ym mis Medi 2017 ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, y Gyfraith a Llywodraethu ym mis Gorffennaf 2019.

Mae hi wedi arwain ar drafodaethau rheoliadau hylendid bwyd yr UE o fewn yr ASB. Cyn hyn, roedd hi'n rheoli'r uned gyflenwi sy'n cefnogi gwaith awdurdodau lleol i gyflenwi rheolaethau swyddogol. Roedd hi hefyd yn rheolwr rhaglen ar y cyd ar gyfer creu Grŵp Gweithrediadau'r ASB gan sicrhau ei fod wedi'i strwythuro a'i drefnu i ddarparu rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid i ddiogelu defnyddwyr. Yn y rôl hon, aeth hi ati i gychwyn ar waith Adolygu Cyflenwi Rheolaethau Swyddogol. 

Mae ei gyrfa bron 40 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil wedi cynnwys ystod eang o swyddi yn y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'i hasiantaethau gweithredol. Yn ystod yr amser hwnnw, bu Catherine yn ysgrifennydd preifat gweinidogol, a bu’n gyfrifol am sawl maes polisi bwyd a thrafodaethau pysgodfeydd rhyngwladol. Mae hi hefyd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu a rhedeg swyddogaeth Adnoddau Dynol ac mae wedi rheoli a darparu adolygiad sylweddol o’r mesurau rheoli gwobrau a pherfformiad.