Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Christopher Brereton OBE – aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Yn amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Ymddeolodd Chris fel Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2019.

Yn y cyfnod hwnnw, cefnogodd bolisi ar:

  • Iechyd y cyhoedd amgylcheddol gan gynnwys diogelwch bwyd
  • Diogelu iechyd
  • Gwella iechyd 
  • Datblygiad deddfwriaethol iechyd y cyhoedd gan gynnwys Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
  • Peryglon amgylcheddol, ymateb brys a chlefyd trosglwyddadwy

Datblygodd gyrfa Chris yn Lloegr i ddechrau, gan gymhwyso fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (EHO) yn Llundain ac ennill cymwysterau pellach mewn rheoli llygredd, iechyd a diogelwch a rheoli busnes (MBA). I ddechrau, gweithiodd fel EHO yn Essex gan gynnal gwaith arolygu a gorfodi iechyd yr amgylchedd, gan gynnwys ym maes diogelwch bwyd ac arolygu cig. Symudodd Chris i Gymru ym 1982 i ymuno â Chyngor Caerdydd fel EHO cyn mynd ymlaen i swyddi rheoli strategol ar lefel Cyfarwyddwr. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2006 roedd yn gyfrifol am gyflawni holl swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd gan gynnwys Diogelwch Bwyd, Iechyd Porthladdoedd, Dadansoddwr Cyhoeddus, Clefydau Heintus, Trwyddedu, Rheoli Llygredd, Rheoli Plâu, Cynllunio Brys a Gwasanaethau Rheoli Strategol. Mae gan Chris dros 40 mlynedd o brofiad proffesiynol, ac am 30 o’r blynyddoedd hynny mae wedi bod yn gweithio ar lefel strategol. 

Mae ganddo hanes sylweddol o ymgysylltu â'r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a gwleidyddion ar bob lefel er mwyn dylanwadu ar bolisi.

Buddiannau personol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Ymarferwr Iechyd yr Amgylchedd 

Gwaith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Is-lywydd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
  • Aelod o Glwb ‘Triumph Sports Six’

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Yn berchen ar ei gartref ei hun ym Mro Morgannwg

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim