Cod Ymddygiad, rheolau sefydlog a chylch gorchwyl ar gyfer Bwrdd yr ASB
Rydym yn adran anweinidigol o'r llywodraeth sy'n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion. Mae'r Bwrdd yn sicrhau ein bod ni'n bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel bod pob penderfyniad neu gam gweithredu yn ystyried cyngor gwyddonol a buddiannau defnyddwyr.
Mae'r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo rhwng saith ac un-ar-ddeg aelod arall. Maen nhw'n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae rheolaeth yr Asiantaeth o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i swyddogion drwy'r Prif Weithredwr.
Mae'r Bwrdd yn cael ei benodi'n bennaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gydag un aelod yn cael ei benodi gan Weinidog Iechyd Cymru, ac un gan Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon.
Mae gwybodaeth am sut mae'r Bwrdd yn gweithio i'w gweld yn y dogfennau Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog.
England, Northern Ireland and Wales
Pwyllgorau Bwrdd yr ASB
Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o'i chyfrifoldebau ac i'w chynghori ar eraill.
Hanes diwygio
Published: 24 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2023