Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cod Ymddygiad, rheolau sefydlog a chylch gorchwyl ar gyfer Bwrdd yr ASB

Rydym yn adran anweinidigol o’r llywodraeth sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion. Mae’r Bwrdd yn sicrhau ein bod ni’n bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel bod pob penderfyniad neu gam gweithredu yn ystyried cyngor gwyddonol a buddiannau defnyddwyr.

Mae’r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd sy’n cynnwys rhwng saith ac un ar ddeg aelod arall. Maen nhw’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae rheolaeth yr Asiantaeth o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i swyddogion drwy’r Prif Weithredwr.

Mae’r Bwrdd yn cael ei benodi’n bennaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gydag un aelod yn cael ei benodi gan Weinidog Iechyd Cymru, ac un gan Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon.

Mae gwybodaeth am sut mae’r Bwrdd yn gweithio i’w gweld yn y dogfennau Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog.

Pwyllgorau Bwrdd yr ASB

Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o’i gyfrifoldebau ac i’w gynghori ar eraill.