Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Colm McKenna - Aelod o Fwrdd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon

Penodol i Ogledd Iwerddon

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Bu i Colm McKenna ymddeol o'r diwydiant ym mis Hydref 2008, ar ôl gyrfa hir a llwyddiannus mewn gwasanaethau ariannol, a oedd yn cynnwys swyddi arwain yn y Trysorlys Corfforaethol, Bancio Rhyngwladol, Ariannu ar gyfer Masnachu a Marchnata. Ers hynny, mae wedi troi ei law at arwain ar lefel Bwrdd yn Sector Cyhoeddus Gogledd Iwerddon.

Ar hyn o bryd, mae'n gwneud y canlynol:

  • Cadeirydd Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y De-ddwyrain ers mis Hydref 2008
  • Cadeirydd Conffederasiwn Gogledd Iwerddon ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (NICON) ers mis Rhagfyr 2013
  • Cadeirydd Pwyllgor Cynghori Apeliadau'r BBC yng Ngogledd Iwerddon ers mis Mai 2014
  • Cadeirydd Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau ers mis Ebrill 2014
  • Cadeirydd Ysgrifenyddiaeth Pwyllgor Archwilio a Risg Cynulliad Gogledd Iwerddon, ers mis Medi 2011, ar ôl bod yn Aelod Annibynnol ers 2009
  • Cyfarwyddwr anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Gogledd Iwerddon ers mis Mai 2011
  • Cadeirydd Fforwm Cadeiryddion Sector Cyhoeddus Gogledd Iwerddon ers mis Ebrill 2016

Yn ei amser hamdden, Colm yw Cadeirydd Clwb Aontrama, y sefydliad masnachol/codi arian y tu ôl i Antrim GAA. Mae'n byw yn Glenavy, Co. Antrim gyda'i wraig Giuseppa ac mae ganddynt ddau o blant a chwech o wyrion.

Cyflogaeth

Ddim yn berthnasol

Swyddi Cyfarwyddwr

Swyddi Cyfarwyddwr, gyda thâl neu’n ddi-dâl

  • Cadeirydd - Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y De-ddwyrain
  • Cadeirydd - Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau
  • Cadeirydd –​Ysgrifenyddiaeth Pwyllgor Archwilio a Risg Cynulliad Gogledd Iwerddon
  • Cadeirydd Anweithredol / Cadeirydd Pwyllgor Archwilio – Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys Gogledd Iwerddon
  • Cadeirydd – Pwyllgor Cynghori Apeliadau'r BBC, Gogledd Iwerddon

Incwm, cydnabyddiaeth neu fuddion eraill

Unrhyw fusnes, gweithgareddau proffesiynol neu gyhoeddus neu fuddiannau sy’n ffynhonnell incwm, cydnabyddiaeth neu sydd o fudd arall

Ddim yn berthnasol

Sefydliadau, clybiau neu gyrff

Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau

  • Cadeirydd Club Aontroma - Elusen Gofrestredig – Cymdeithas Athletau Gaelaidd 
  • Aelod – Clwb Lámh Dhearg GAA
  • Aelod – Clwb Golff Dunmurry

Cyfranddaliadau a buddsoddiadau

Unrhyw gyfranddaliadau, ac eithrio’r rheiny sy’n cael eu cadw gan gwmni buddsoddi neu drefniadau tebyg lle nad oes gan aelodau’r Bwrdd ddylanwad ar y ffordd y caiff y cyfranddaliadau eu rheoli

Mae gen i nifer fach o gyfranddaliadau Banc Iwerddon.