Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Rydym yn adran anweinidigol o’r llywodraeth sy’n cael ei llywodraethu gan Fwrdd, yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion.

Mae’r Athro Susan Jebb yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo hyd at 12 aelod. Maen nhw’n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol ein sefydliad.

Gan fod tryloywder yn egwyddor sy’n llywio’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac sy’n allweddol i gynnal hyder y cyhoedd, gallwch chi wylio cyfarfodydd ein bwrdd.

Bydd cyfarfod nesaf Bwrdd yr ASB yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 19 Mehefin 2024. 

Fideo o Gyfarfodydd diweddaraf Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes

Cofrestru i wylio Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Gallwch wylio cyfarfodydd y Bwrdd i glywed ei drafodaethau am ein polisïau.

Mae Bwrdd yr ASB yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a phenderfyniadau ar y cyfarfodydd hyn.

Bydd angen i chi gofrestru i wylio cyfarfodydd y Bwrdd

Cyflwyno cwestiwn i Fwrdd yr ASB

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y papurau sy’n cael eu hystyried ym mhob un o’i gyfarfodydd.

Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd felly mae’n bwysig bod yr ymholiadau mor gryno ac eglur â phosib.

Gallwch gyflwyno cwestiwn ar y papurau sy’n cael eu trafod hyd at 5pm y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau. Bydd cwestiynau a gyflwynir i’r Bwrdd hefyd yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd. Cyhoeddir yr atebion ar dudalen berthnasol Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB.

Os oes gennych chi gwestiwn sydd o fewn cwmpas gwaith yr ASB nad yw’n ymwneud â phapur ar agenda cyfarfod Bwrdd yr ASB, defnyddiwch ein tudalen ‘Cysylltu â ni’.

Mae'r cyfnod i gyflwyno cwestiynau ar gyfer Cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth 2024 wedi dod i ben.

Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB sydd ar y gweill

Mae Bwrdd yr ASB yn cyfarfod bob chwarter.

Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf sydd wedi’u trefnu:

  • 19 Mehefin 2024 – Llandudno
  • 18 Medi 2024 – Peterborough
  • 11 Rhagfyr 2024 – Llundain
  • 26 Mawrth 2025 –  Lleoliad i’w gadarnhau
  • 19 Mehefin 2025 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 17 Medi 2025 – Lleoliad i’w gadarnhau
  • 10 Rhagfyr 2025 –  Lleoliad i’w gadarnhau

Cyfarfodydd Blaenorol Bwrdd yr ASB a’r Pwyllgor Busnes

Gallwch chi wylio recordiadau o gyfarfodydd blaenorol Bwrdd yr ASB ar YouTube a dod o hyd i gofnodion, papurau bwrdd ac agendâu’r cyfarfodydd canlynol ar ein gwefan: 

Cyfarfodydd yn 2024:

Cyfarfodydd yn 2023:

Cyfarfodydd yn 2022:

Cyfarfodydd yn 2021:

Mae’r Archifau Cenedlaethol yn cadw gwybodaeth am gyfarfodydd cynharach.

Pwyllgorau Bwrdd yr ASB

Penododd Bwrdd yr ASB Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Phwyllgor Busnes i ymgymryd â rhai o’i gyfrifoldebau ac i’w gynghori ar gyfrifoldebau eraill.

Sut mae Bwrdd yr ASB yn cael ei lywodraethu