Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Cymrodoriaeth Ymchwil Arolwg Bwyd a Chi 2

Rydym ni’n gwahodd ceisiadau am gymrodoriaeth ddwy flynedd. Mae'r ceisiadau ar gyfer y rhaglen yn cau ddydd Sul 3 Ebrill.

Bydd y Cymrawd Ymchwil Arolwg Bwyd a Chi 2 newydd yn rhan o Uned Ddadansoddeg yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), gan weithio ochr yn ochr â’n hystadegwyr, ein hymchwilwyr cymdeithasol a’n Cymrawd Ymchwil Bwyd a Chi presennol (sy’n arwain ar adroddiadau’r arolwg) i gyflwyno arolwg Bwyd a Chi 2.

Y Prosiect

 

Bwyd a Chi 2 yw arolwg Ystadegyn Swyddogol blaenllaw yr ASB sy'n mesur agweddau, ymddygiad a gwybodaeth hunan-gofnodedig y cyhoedd mewn perthynas â diogelwch bwyd a materion eraill sy'n gysylltiedig â bwyd (er enghraifft pryderon am fwyd, ymddiriedaeth mewn bwyd a’r ASB, mynediad at y cyflenwad bwyd (food security), siopa bwyd, bwyta y tu allan i’r cartref). Mae gan yr arolwg hwn rôl bwysig wrth fesur ein cynnydd tuag at ein hamcanion strategol, darparu tystiolaeth gadarn i gefnogi gwneud penderfyniadau polisi a helpu i nodi lle y gallai fod angen gweithredu neu ymchwil bellach.  

Yn unol â rhaglen Trawsnewid Digidol y Llywodraeth, yn 2019 argymhellodd Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol yr ASB (ACSS) y dylai’r arolwg Bwyd a Chi symud i ffwrdd o gyfweld wyneb yn wyneb traddodiadol tuag at  fethodoleg ‘wthio i’r we’ (push-to-web). Mae symud i’r dull mwy cost-effeithiol newydd hwn yn 2020 wedi caniatáu i ni gynyddu maint y sampl i 4,000 o aelwydydd fesul cylch a chynyddu amlder gwaith maes bedair gwaith (o bob 24 mis i bob chwe mis). Hyd yma, rydym ni wedi cwblhau tri chylch gwaith maes; mae data o gylchoedd 1 a 2 wedi’i gyhoeddi, ac mae disgwyl i gylch 3 gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2022, ac mae cylch 4 ar y gweill.  

Mae’r ASB wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw. Cyhoeddir yr holl adroddiadau ar wefan yr ASB a chyhoeddir y data sylfaenol ar gatalog data agored yr Asiantaeth, a Gwasanaeth Data'r DU. Rhaid cyhoeddi data mewn fformat agored a hygyrch y gellir ail-ei ddefnyddio, fel ei fod ar gael i ymchwilwyr y dyfodol a bod pawb yn gallu manteisio i’r eithaf arno.  

 

Prif gyfrifoldebau 

Bydd y Cymrawd yn gyfrifol am y canlynol: 

  • Sicrhau ansawdd data arolwg Bwyd a Chi 2 sy’n dod i law gan ein partner ymchwil, gan gynnwys data ar gyfer cylchoedd arolygon unigol a set ddata gyfunol ar gyfer cylchoedd 1-4 
  • Dadansoddiad eilaidd o ddata Bwyd a Chi 2 gan ddefnyddio technegau ystadegol uwch (ceir rhagor o fanylion am y sgiliau dadansoddi gofynnol isod)  
  • Cynnal dadansoddiad o ddata Bwyd a Chi 2 i gyfrannu at erthyglau ac adroddiadau academaidd ac anacademaidd 
  • Ymchwilio i ymarferoldeb cynhyrchu tablau data Excel yn fewnol i fodloni gofynion hygyrchedd newydd 
  • Cryfhau cysylltiadau'r ASB â phartneriaid academaidd a lledaenu ein data i'r gymuned academaidd ehangach  

Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad 

Dylai'r Cymrawd fod â’r canlynol:

  • cefndir academaidd cryf (gradd israddedig o leiaf 2:1 a gradd ôl-raddedig ar o leiaf lefel Meistr) mewn pwnc sy’n cynnwys hyfforddiant ystadegol ffurfiol er enghraifft Gwyddor Ymddygiadol neu Gymdeithasol, Seicoleg, Gwyddor Data, Ystadegau, Epidemioleg, Mathemateg, Economeg, y Gwyddorau, Astudiaethau Busnes, ac ati
  • sgiliau a gwybodaeth dadansoddi ystadegol uwch - mae profiad o ddulliau atchweliad (regression), gan gynnwys modelau llinellol cyffredinol a modelu effeithiau cymysg, yn hanfodol; mae profiad o dechnegau aml-amrywedd a dadansoddi cyfresi amser yn ddymunol
  • gwybodaeth a phrofiad gwaith rhagorol o ddefnyddio Excel, R a/neu SPSS (peth gwybodaeth am y tri yn ddelfrydol) 
  • profiad o weithio gyda setiau data arolwg mawr 
  • profiad o gymhwyso dulliau meintiol i ymchwilio data  
  • profiad o gyflawni’n brydlon a gweithio i derfynau amser tyn  
  • profiad o weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm amlddisgyblaethol  
  • sgiliau trefnu rhagorol, gan gynnwys y gallu i reoli eich ymchwil wyddonol eich hun a gweithgareddau cysylltiedig
  • sylw rhagorol i fanylion  
  • sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i egluro syniadau cymhleth yn glir yn Saesneg i gynulleidfaoedd gwyddonol a chyhoeddus
  • hanes o gyhoeddiadau ymchwil o ansawdd uchel sy’n datblygu o hyd 

Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli mewn sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. Disgwylir i’ch sefydliad presennol ddarparu adnoddau ymarferol a chefnogaeth i’r gymrodoriaeth hon, ac i'ch datblygiad fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa. Dylai fod gan eich goruchwyliwr swydd academaidd adrannol mewn cyfadran (er enghraifft, athro cynorthwyol / athro cyswllt / darllenydd / athro): byddant yn eich cefnogi i gyflawni amcanion y gymrodoriaeth ac i reoli unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig â’r gymrodoriaeth hon. Bydd eich sefydliad presennol a’ch goruchwyliwr yn elwa o gynhyrchu cyhoeddiadau effeithiol mewn cydweithrediad agos â’r llywodraeth a chyfle manteisiol i ymgysylltu â gweithgareddau’r ASB.

Manylion y gymrodoriaeth a chyllid 

Mae’r gymrodoriaeth hon am gyfnod o ddwy flynedd gydag adolygiad perfformiad/contract ar ôl chwe mis. Bydd y cymrawd yn cael ei gyflogi o dan delerau ac amodau eu prifysgol gartref, gyda’r ASB yn talu costau cyflog a chostau anuniongyrchol a gorbenion cysylltiedig trwy gydol y gymrodoriaeth. Disgwylir i’r cymrawd dreulio 100% o’i amser neu ei hamser yn gweithio gyda’r ASB. Mae’r ASB wedi clustnodi cyllideb briodol ar gyfer cyflawni’r gymrodoriaeth hon a’i hymchwil gysylltiedig, gyda hyd at £170,000 ar gael am gyfnod y gymrodoriaeth 2 flynedd i dalu cyfanswm y costau. Efallai y bydd y cymrawd yn dewis gweithio gartref neu dreulio 50% o’i amser yn un o'n swyddfeydd (Llundain, Caerefrog, Birmingham, Belfast neu Gaerdydd). 

Sut i wneud cais 

I wneud cais am y cyfle hwn, anfonwch gynnig at Lucy King, gan gynnwys y canlynol:   

  • Datganiad personol a CV y Cymrawd Ymchwil – dylech ddarparu datganiad personol (heb fod yn fwy na 1250 o eiriau) a’ch CV (4 tudalen ar y mwyaf) sy’n nodi sut mae eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn bodloni gofynion y gymrodoriaeth hon, a’ch gallu i gyflawni’r prif gyfrifoldebau sydd wedi'u hamlinellu
  • Datganiad personol a CV y Goruchwyliwr– dylai eich darpar oruchwyliwr ddarparu datganiad (heb fod yn fwy na 750 gair) ochr yn ochr â’u CV (4 tudalen ar y mwyaf), sy’n nodi sut y byddan nhw a'u sefydliad yn eich cefnogi ac yn eich goruchwylio i gyflawni amcanion y gymrodoriaeth, unrhyw brofiad perthnasol wrth reoli cymrodoriaethau eraill, ac unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â’r gymrodoriaeth hon a sut y bydd y rhain yn cael eu rheoli 
  • Llythyr cefnogaeth gan eich sefydliad – yn cadarnhau eu cefnogaeth
  • Costau – dylai ymgeiswyr ddarparu dadansoddiad manwl o’r costau, gan gynnwys cyflog a chostau cysylltiedig y gymrodoriaeth ymchwil. Dylid cwblhau hwn gyda chefnogaeth swyddfa ymchwil eich sefydliad presennol

Yn dilyn sifftio cychwynnol i reoli ansawdd er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi’i darparu, byddwn yn asesu eich cais ar eich gallu i gyflawni cyfrifoldebau disgwyliedig y gymrodoriaeth, yn ogystal â phriodoldeb y costau ariannol a gyflwynwyd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd am gyfweliad (disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal o bell ym mis Mai 2022). Yn dilyn dewis ymgeiswyr, ein nod yw cytuno ar ddyddiad cychwyn ar gyfer Gorffennaf 2022, yn amodol ar drafod telerau ac amodau gyda’ch sefydliad presennol.

Rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â gofynion Fisa a Mewnfudo y Swyddfa Gartref/DU a meddu ar drwydded waith ddilys lle bo’n briodol. Rhaid i ymgeiswyr sydd angen fisa sicrhau bod hwn yn ei le cyn dyddiad dechrau’r gymrodoriaeth.

Dyddiad cau

Mae ceisiadau am y rhaglen yn cau hanner nos haner nos ddydd Sul 3 Ebrill 2022. Ni fydd ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gymrodoriaeth hon, anfonwch e-bost at Lucy King