Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dr Philip Hollington - aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Bu Dr Hollington yn gweithio yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor a'r ysgolion a daeth o'i blaen am bron i 30 mlynedd, nes iddo ymddeol yn 2019. Ar ôl graddio mewn Amaethyddiaeth, ac ennill PhD mewn Agronomeg Glaswelltir, yn Aberystwyth, bu'n gweithio yn hen Orsaf Bridio Planhigion Cymru, lle'r oedd ei ffocws ar laswelltir a chynhyrchu cynaliadwy.

Ar ôl symud i'r gogledd ym 1989, roedd Dr Hollington yn ymwneud yn helaeth ag ymgynghoriaeth, ymchwil ac addysgu ar agweddau mwy byd-eang ar amaethyddiaeth, yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd. Fe ddatblygodd ac arweinodd yr MSc mewn Diogelu'r Cyflenwad Bwyd yn yr Amgylchedd sy'n Newid ym Mhrifysgol Bangor, gan ganolbwyntio'n bennaf ar yr heriau sy'n wynebu cynhyrchu bwyd cynaliadwy yng ngoleuni newid byd-eang a datblygiadau cyflym mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, ac ar beth sy'n gyrru defnyddwyr ac ymatebion ac agweddau'r llywodraeth tuag at y newidiadau hyn. Roedd hefyd yn edrych ar y gwrthdaro rhwng gwahanol sectorau a rhanddeiliaid, a sut y gellid eu datrys.

Mae Dr Hollington yn byw ym Miwmares ar Ynys Môn, sydd wedi meithrin diddordebau eraill mewn ecosystemau arfordirol a morol, ac mae hefyd yn eistedd ar Grŵp Cynghori a Gweithredu Morol Cymru.

Buddiannau personol


Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Wedi ymddeol o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, lle bu'n addysgu cyrsiau ar lefel meistr mewn meysydd yn ymwneud â diogelu'r cyflenwad bwyd, newid hinsawdd, amaethyddiaeth a'r amgylchedd. 
  • Cyn-aelod o Fwrdd Rheoli Partneriaeth Hyfforddi Agrifood, sef consortiwm o 8 prifysgol y Deyrnas Unedig (DU) wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol i ddarparu hyfforddiant uwch i sectorau bwyd-amaeth y DU. 

Gwaith am ffi

  • Darparu cyngor sgrinio prosiect o bryd i'w gilydd i elusen – Maint Cymru – yn canolbwyntio ar ddiogelu coedwigoedd glaw trofannol a'u cymunedau
  • Arholwr allanol ar gyfer cyrsiau BASIS / FACTS (cyrsiau galwedigaethol ar gyfer cynghorwyr ac ymgynghorwyr amaethyddol) ym Mhrifysgol Harper Adams

Cyfranddaliadau

  • Yn berchen ar gyfranddaliadau uniongyrchol yn Anglesey Mining PLC
  • Mae ganddo fuddsoddiadau eraill drwy Ymddiriedolaethau Unedol, nad yw'n eu rheoli'n uniongyrchol 

Clybiau a sefydliadau eraill

 

  • Is-gadeirydd Cragen Llŷn a Môn, sef sefydliad rhanddeiliaid cymunedol yn cynrychioli cymunedau arfordirol gogledd-orllewin Cymru. 
  • Aelod o Grŵp Cynghori a Gweithredu Morol Llywodraeth Cymru. 
  • Aelod o Gymdeithas Glaswelltir Prydain a'r Gymdeithas Amaethyddiaeth Drofannol.


Buddiannau personol eraill

  • Gwraig Dr Hollignton yw Prif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith, sefydliad lobïo dros y Gymraeg

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

Cymrodoriaethau

  • Dim

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim