Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ein dull ni o weithio a’r cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo

Rydym yn defnyddio dull gwyddonol, seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Mae hyn yn rhoi’r grym i fusnesau a defnyddwyr wneud y peth iawn i gadw bwyd yn ddiogel. Rydym yn dweud y gwir am fwyd.

Ein nod yw: 

  • bod yn llais dibynadwy ar safonau bwyd er budd defnyddwyr
  • ei gwneud hi'n hawdd i fusnesau gynnal diogelwch a safonau bwyd
  • cydweithio â’r rhai mwyaf dylanwadol yn y system fwyd i wella diogelwch a safonau bwyd
  • manteisio i’r eithaf ar ddata a gallu digidol yn fewnol ac yn allanol i gryfhau ein dylanwad
  • gweithredu’n dryloyw ac yn agored
Mae 78% o bobl wedi clywed am yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae 73% o rheiny yn ymddiried ynom i wneud ein gwaith

Y cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo

Mae sector bwyd y DU yn cynnwys:

  • 4.1 miliwn o bobl a gyflogir yn y sector bwyd-amaeth yn Chwarter 4 2019 (Prydain Fawr)
  • Gwerth £23.6 biliwn o allforion bwyd, bwyd anifeiliaid a diod yn 2019 (Y Deyrnas Unedig)
  • £234 biliwn oedd gwariant defnyddwyr ar fwyd, diod ac arlwyo yn 2019 (Y Deyrnas Unedig)
  • £120.2 biliwn oedd cyfraniad y sector bwyd-amaeth i'r Gwerth Ychwanegol Gros cenedlaethol yn 2018 (Y Deyrnas Unedig)

Ffynhonnell: Food Statistics in your pocket Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

Mae 500,000+ o sefydliadau bwyd

Mae’r 500,000+ o sefydliadau bwyd (2018/2019) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnwys:

  • 413,000 o Fwytai ac Arlwywyr 
  • 124,000 o Fanwerthwyr 
  • 17,000 o Weithgynhyrchwyr a Phecynwyr 
  • 9,000 o Ddosbarthwyr/Cludwyr 
  • 4,000 o Gynhyrchwyr Cynradd 
  • 1,000 o Fewnforwyr/Allforwyr

Ffynhonnell: Adroddiad Blynyddol ar Waith Gorfodi Cyfraith Bwyd Awdurdodau Lleol 2018-2019

Ewch ati i lawrlwytho ein llyfryn gwybodaeth. Dysgwch rhagor am sut rydym ni wedi gweithio i ddiogelu eich plât dros yr 20 mlynedd diwethaf, a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.