Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Emily Miles, Prif Weithredwr

Gwybodaeth am Brif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Emily Miles

Mae Emily Miles wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol ar yr ASB ers mis Medi 2019.

Cyn hynny, roedd hi'n Gyfarwyddwr Cyffredinol dros dro yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), gyda chyfrifoldeb dros ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Bu ganddi nifer o rolau yn Defra rhwng 2015 a 2019, gan gynnwys Cyfarwyddwr Strategaeth y Grŵp, a chydlynu gwaith ar ganlyniadau domestig yn sgil ymadael â’r UE.

Dros y 15 mlynedd diwethaf bu’n gweithio’n bennaf ar faterion cartref, yn y Swyddfa Gartref, yn Downing Street ac yn Swyddfa’r Cabinet. Roedd ei rolau'n cynnwys:

  • Cyfarwyddwr Plismona yn y Swyddfa Gartref
  • Cyfarwyddwr Rhaglen i glirio ôl-groniad o lwyth achosion lloches hanesyddol y Deyrnas Unedig (DU) yn Asiantaeth Ffiniau'r DU 
  • Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer cau'r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona a sefydlu'r Coleg Plismona 

Roedd hi'n gynghorydd polisi ar faterion cartref i'r Prif Weinidog Tony Blair rhwng 2002 a 2005.

Cymerodd seibiant o’i gyrfa rhwng 2010 a 2011, yn rhannol i dreulio rhagor o amser gyda'i dau blentyn ifanc. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hi hefyd yn Gymrawd Winston Churchill, gan deithio i’r Unol Daleithiau, Canada ac India. Cyhoeddodd ei chanfyddiadau fel adroddiad InsideOut, Cydweithio (Collaborative Working), ar gyfer Sefydliad y Llywodraeth, lle bu’n Gymrawd Whitehall yn 2011.

Rhwng 1999 a 2017 roedd hi'n ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree, gan gynnwys cyfnod fel is-gadeirydd. Mae hi'n aelod o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion (Crynwyr) ym Mhrydain.

Mae gan Emily radd Meistr yng nghyfraith ryngwladol gwrthdaro arfog a chyfiawnder troseddol rhyngwladol o Brifysgol Nottingham, ac roedd ei gradd gyntaf o Brifysgol Caergrawnt, mewn Saesneg.

Rolau blaenorol:

  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyflenwi Ymadael â’r UE, Defra (Ebrill – Medi 2019)
  • Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Materion Domestig a Chyfansoddiadol Ymadael â’r UE, Defra (Ebrill 2018 tan Ebrill 2019)
  • Cyfarwyddwr Strategaeth y Grŵp, Defra (Tachwedd 2015 tan Ebrill 2018)
  • Cyfarwyddwr, Prosiectau, Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig, Swyddfa'r Cabinet (Mawrth 2014 tan Tachwedd 2015)