Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Fiona Gately – Aelod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Fiona Gately

Mae gan Fiona Gately brofiad helaeth yn y diwydiant bwyd, gan weithio ar draws y sector i sefydliadau’r llywodraeth, busnesau a chyrff eiriolaeth.

Mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol ar fwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac wedi gwasanaethu ar ei Phwyllgor Cynghori ar Safonau Organig rhwng 2003 a 2005. Rhwng 2004 a 2011, bu’n cyfarwyddo ymgyrchoedd Jamie Oliver ar ginio ysgol, sgiliau coginio a gordewdra yn y DU a’r UDA, gan arwain gwaith ymgysylltu â defnyddwyr, rhanddeiliaid a’r llywodraeth. Yn 2005, sefydlodd School Food Trust ar gyfer yr Adran Addysg i gyflwyno safonau a chanllawiau newydd ar gyfer prydau ysgol. Gwasanaethodd ar y Bwrdd rhwng 2009 a 2011.

Sefydlodd Fiona ystod o gynnyrch arobryn ar gyfer Duchy Originals, brand bwyd y Brenin Charles, gan sefydlu cadwyni cyflenwi a phartneriaethau gweithgynhyrchu a chodi ymwybyddiaeth defnyddwyr o fwyd organig.  Yn fwy diweddar, bu’n gweithio fel pennaeth marchnata gyda chwmni llaeth organig cydweithredol y DU, Omsco. Mae hi’n gynghorydd i Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginiol a’i Hymddiriedolaeth ‘Adopt A School’, gan eu cefnogi i hyrwyddo addysg bwyd a sgiliau coginio trwy’r diwydiant lletygarwch.

Buddiannau Personol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Wedi’i chyflogi fel ymgynghorydd trwy ei chwmni Nourish Communication Ltd.
  • Rôl ymgynghorol, Ateria Health Ltd ac Aelod o’u Bwrdd Ymgynghorol

Rolau Di-dâl

  • Cynghorydd i Academi Frenhinol y Celfyddydau Coginiol a’i Hymddiriedolaeth ‘Adopt a School’

Gwaith â thâl

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Nourish Communication Ltd.

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Aelod o Glwb Hwylio Brenhinol Hong Kong
  • Aelod o Glwb Nofio’r Serpentine

Buddiannau personol eraill

  • Beirniad yng Ngwobrau Mentrau Gwledig 2023

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

  • Dim

Cymrodoriaethau

  • Cymrawd yn y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim     

Tir ac eiddo

  • Dim     

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim     

Buddiannau eraill nad ydynt yn bersonol nac yn Gyfarwyddiaethau

  • Cyfarwyddwr, 75/77 Kensington Gardens Square Ltd (di-dâl)
  • Cyfarwyddwr, Nourish Communication Ltd.