Hayley Campbell-Gibbons – Aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Yma ceir amlinelliad o hanes proffesiynol Aelodau ein Bwrdd a manylion am unrhyw fuddiannau busnes a allai fod ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Mae Hayley Campbell-Gibbons yn gweithio yn y sector bwyd a ffermio ers dros bymtheg mlynedd. Yn fwyaf diweddar, roedd Hayley yn aelod anweithredol o’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, lle bu’n aelod am dair blynedd. Cyn hynny, bu Hayley yn brif gynghorydd polisi yn Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, lle bu’n gweithio am dros ddeng mlynedd yn arwain gwaith lobïo, polisi a strategaeth y gymdeithas fasnach yn y sectorau llaeth a garddwriaeth. Yn ystod y cyfnod hwnnw, penodwyd Hayley i gynrychioli’r Undeb ar fwrdd yr Awdurdod Meistri Gangiau a Chamdrin Llafur (GLAA). Mae gan Hayley Radd Meistr mewn polisi gwledig, ac mae hi’n ysgrifennu’n rheolaidd i wasg y fasnach amaethyddiaeth. Erbyn hyn, mae hi’n rhedeg ei busnes ei hun ym maes ymgynghori ar bolisi yn y sector bwyd-amaeth. Yn dod o Birmingham yn wreiddiol, mae hi bellach yn byw yn y Cotswolds gyda’i gŵr a’i dau blentyn ifanc.
Buddiannau personol
- Dim
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Pennaeth Cynaliadwyedd ar gyfer Kite Consulting.
- Cyfarwyddwr Campbell-Gibbons Consulting, yn arbenigo mewn polisi bwyd-amaeth.
- Awdur ar gyfer cylchgrawn Horticulture Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.
- Awdur ar gyfer cylchgrawn masnach British Dairying.
Rolau heb dâl
- Dim
Gwaith am ffi
- Cyfarwyddwr Campbell-Gibbons Consulting.
- Cyfarwyddwr No.10 Coffee (siop goffi yn Alcester, Swydd Warwick).
Cyfranddaliadau
- Dim
Sefydliadau, clybiau neu gyrff
- Ymddiriedolwr yr elusen ‘Friends of Blockley School’
Buddiannau personol eraill
- Dim
Buddiannau personol nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Cymrodoriaethau
- Dim
Cefnogaeth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Dim
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn bersonol
- Dim