Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Cofrestr o Arbenigwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Ein polisi preifatrwydd ar gyfer Cofrestr o Arbenigwyr, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda’r data a’ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae angen i ni gasglu eich data personol at ddibenion sifftio ceisiadau a llunio cronfa ddata o arbenigwyr ar gyfer Cofrestr o Arbenigwyr yr ASB.

Ni fyddwn ni’n casglu unrhyw ddata personol nad yw’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract yr ydych yn rhan ohono, nac er mwyn cymryd y camau angenrheidiol cyn ymrwymo i gontract gyda’r ASB, gan gynnwys sifftio a dewis ceisiadau, ac unrhyw wiriadau angenrheidiol o ran cadarnhau pwy ydych chi, diogelwch neu eich hawl i weithio.  

Pan fyddwn ni’n prosesu eich data categori arbennig – fel data sy’n ymwneud â monitro cyfle cyfartal – rydym ni’n gwneud hynny i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran cyflogi ac er budd sylweddol y cyhoedd yn unol â’n Polisïau Diogelu Data ac Adnoddau Dynol.

Beth sydd ei angen arnom ni a sut rydym ni'n ei ddefnyddio

Cronfa ddata fewnol yw’r Gofrestr o Arbenigwyr y gall staff yr ASB ddethol  arbenigwyr ohoni ar gyfer darnau penodol o waith. Bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at gronfeydd data rheoli prosiectau mewnol yr ASB.

Fel arbenigwr yn eich maes, byddwn ni’n comisiynu darnau byr o waith ad-hoc gennych chi o dan gontract i ddarparu gwasanaethau gwyddonol a thechnegol. 
 
Os ydych chi am fod ar y Gofrestr a chael eich contractio am waith ad-hoc, gallai methu â darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani arwain at oedi neu i’r ASB fethu â phrosesu eich gwybodaeth at y dibenion hyn.

Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu


Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n cadw’r wybodaeth am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Gellir trosglwyddo’ch cais i unigolion arbenigol nad ydynt nhw o bosib wedi’u cyflogi gan yr ASB, a hynny at ddibenion sifftio a dewis ymgeiswyr i fynd ar y Gofrestr. 

Yn unol â’r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo eich gwybodaeth i adrannau eraill y Llywodraeth ac i Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB er mwyn nodi bylchau yn y meysydd arbenigedd. Dyma restr o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB:

Ni fydd eich data monitro cyfle cyfartal, na data sy’n ymwneud â’ch gwiriadau adnabod a’ch data bancio, yn cael eu rhannu at y dibenion hyn.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol 

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran Dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau 

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod.