Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cymorth cofrestru busnes bwyd ar gyfer awdurdodau lleol

Gwybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Cofrestru Busnes Bwyd ar gyfer awdurdodau lleol, pam mae angen data arnom ni, yr hyn yr ydym yn ei wneud â’r data, a’ch hawliau chi.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ y data personol sy’n cael ei roi i ni.

Pwrpas prosesu a’r sail gyfreithiol dros brosesu

Mae angen i ni gasglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu a chefnogi’r gwasanaeth cofrestru busnesau bwyd ar-lein mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r wybodaeth bersonol sydd gennym ni amdanoch chi’n cynnwys eich enw, eich adran, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn mewn perthynas ag un neu fwy o’r rolau canlynol:

  • Cyswllt cyhoeddus dynodedig yr awdurdod lleol ar gyfer Cofrestru Busnes Bwyd
  • Prif gyswllt dynodedig yr awdurdod lleol ar gyfer Cofrestru Busnes Bwyd
  • Cyswllt eilaidd dynodedig yr awdurdod lleol ar gyfer Cofrestru Busnes Bwyd

Mae’r ASB yn cael gafael ar yr wybodaeth hon drwy gysylltu â’ch awdurdod lleol.

Rydym yn gwneud hyn yn unol â pherfformiad ein dyletswyddau statudol i gyflawni’n bennaf y rhwymedigaethau statudol sy’n ofynnol o dan Erthygl 31 o Reoliad (CE) Rhif 882/2004. Mae hyn yn gosod gofyniad ar awdurdodau cymwys i sefydlu gweithdrefnau ar gyfer cofrestru busnesau bwyd, gan lunio a diweddaru rhestr o fusnesau bwyd sydd wedi’u cofrestru.

Rydym yn gwneud hyn wrth arfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i ni ac wrth gyflawni tasgau er budd y cyhoedd. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol amdanoch chi nad oes ei angen arnom.

Sut a ble rydym yn storio eich data, a chyda phwy y gallwn ei rannu 

Dim ond cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, a hynny’n unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw cyhyd â’ch bod yn gweithredu fel person cyswllt dynodedig yr awdurdod lleol mewn perthynas â chefnogi’r gwasanaeth Cofrestru Busnes Bwyd. Os byddwch chi’n rhoi gwybod i ni nad ydych yn y rôl hon mwyach, byddwn yn dileu eich gwybodaeth ar unwaith.

I gael rhagor o wybodaeth am sut a ble rydym yn storio eich data, a chyda phwy y gallwn ei rannu, gweler ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Trosglwyddiadau Rhyngwladol  

I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr UE

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni  

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol, neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.