Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer manylion cyswllt rhanddeiliaid

Ein polisi preifatrwydd ar gyfer manylion cyswllt rhanddeiliaid, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym ni’n ei chadw amdanoch chi yn cynnwys eich enw ac unrhyw fanylion cyswllt perthnasol.

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn cysylltu â chi mewn perthynas ag ymgynghoriadau'r ASB, dylunio polisi a/neu ddigwyddiadau sy'n berthnasol i chi.

Gwnawn hyn yn unol â'n dyletswydd gyhoeddus ac er budd y cyhoedd.

Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. 

Efallai y byddwn yn rhannu eich manylion gyda chontractwyr trydydd parti a allai gysylltu â chi ar ein rhan. Y trydydd partïon hyn yw ein proseswyr a dim ond o dan ein cyfarwyddyd caeth y maent yn gweithredu.
 
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol 

I gael rhagor o wybodaeth am Drosglwyddiadau Rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)


I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).