Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – System Arolygu Bwyd y Deyrnas Unedig

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd System Arolygu Bwyd y Deyrnas Unedig, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Pam mae angen yr wybodaeth hon?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae System Arolygu Bwyd y Deyrnas Unedig (UKFSS) yn gronfa ddata genedlaethol ar gyfer storio canlyniadau dadansoddi samplau bwyd a bwyd anifeiliaid gan awdurdodau gorfodi (awdurdodau Lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn ganolog, fel rhan o'u rheolaethau swyddogol).

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Mae'r wybodaeth bersonol sydd gennym ni'n cynnwys:

  • Enwau a manylion cyswllt swyddogion samplu awdurdodau lleol
  • Enwau a manylion cyswllt busnesau bwyd a'u cynrychiolwyr

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon naill ai gan unigolion eu hunain neu gan drydydd partïon eraill megis cyrff cyhoeddus eraill, awdurdodau lleol, labordai rheoli swyddogol ac Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon.

Rydym ni'n prosesu'r wybodaeth hon at ddibenion gwyliadwriaeth a datblygu polisi, gan nodi tueddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol mewn samplu bwyd a bwyd anifeiliaid, i helpu i ddiffinio a thargedu rhaglenni samplu'r dyfodol ac i fodloni rhwymedigaethau statudol ar adrodd canlyniadau monitro ar gyfer cemegion a gweddillion mewn bwyd a bwyd anifeiliaid i Awdurdodau Diogelwch Bwyd yn rhyngwladol.

Efallai y byddwn ni hefyd yn dadansoddi'r wybodaeth hon ynghyd â gwybodaeth arall sydd gennym amdanoch chi a gwybodaeth a gawsom o ffynonellau cyhoeddus a/neu breifat er mwyn ein helpu i werthuso risg. Gwnawn hyn yn unol ag arfer awdurdod swyddogol dan y Ddeddf Safonau Bwyd ac wrth gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Safonau Bwyd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu?

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 10 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, gweler adran dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.