Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Mae ceisiadau ar agor i benodi aelodau newydd i'n Cofrestr o Arbenigwyr

Mae'r Gofrestr yn rhestr o arbenigwyr cymeradwy y gallwn ni eu defnyddio i gomisiynu darnau byr o waith gwyddonol a thechnegol ad hoc dan gontract.

Rydym ni am ehangu'r Gofrestr i groesawu arbenigwyr newydd a chwmpasu meysydd arbenigedd a mathau o waith newydd. 

Mae hyn yn cynnwys darparu tystiolaeth, dadansoddiad neu gyngor arbenigol i lywio ein gwaith a'n Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol ar asesu risg a materion gwyddonol eraill, a chyngor technegol arall i lywio penderfyniadau rheoli risg.

Yn ogystal, rydym ni'n ceisio arbenigwyr i ddarparu adolygiad gan gymheiriaid ac arfarnu cwestiynau ymchwil, cynigion ymchwil, deunyddiau ac allbynnau, a darparu ffurfiau eraill o gyngor arbenigol. Mae'r Gofrestr yn cwmpasu pob maes arbenigedd sy'n berthnasol i'n cylch gorchwyl ar draws y gwyddorau naturiol, dadansoddol a chymdeithasol. 

Bydd eich gwaith yn cyfrannu'n uniongyrchol at sicrhau bod bwyd yn ddiogel, er budd defnyddwyr y Deyrnas Unedig a bod bwyd yn cael ei reoleiddio'n effeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth. 

Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y Gofrestr, gweler y ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth. Os cewch eich dewis i ymuno â'r Gofrestr, byddwn ni'n gallu cysylltu â chi'n uniongyrchol i gyflawni darnau penodol o waith.

Sut i wneud cais?

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a'r ffurflenni cais isod.

Bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflenni erbyn y dyddiad cau: Dydd Llun, 11 Mawrth 2019, hanner nos.