Nawfed rhifyn cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol

Croeso i nawfed rhifyn cylchlythyr Rheoleiddio ein Dyfodol. Y tro hwn, rydym ni'n edrych ar y cynnydd hyd yma ar ein Strategaethau Arolygu Cenedlaethol, ein trafodaethau panel defnyddwyr diweddaraf a'r camau nesaf ar gyfer Cofrestru Manylach.
Diweddarwyd ddiwethaf

Maen nhw’n rhannau pwysig o’n syniad cyffredinol ar gyfer fframwaith rheoleiddiol modern, ac rwy’n falch eu bod nhw bron yn realiti. Mae'n bwysig camu'n ôl ac atgoffa ein hunain pam ein bod ni wedi ymgymryd â'r rhaglen ddiwygio uchelgeisiol hon a beth fydd y manteision i ddefnyddwyr, busnesau ac awdurdodau lleol. Mae tabl isod sy'n crynhoi'r hyn y mae rhaglen Rheoleiddio Ein Dyfodol am ei chyflawni.

Bydd llawer ohonoch chi'n gwybod bod y cyfryngau wedi rhoi sylw yn ddiweddar i adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athrawon Lang a Millstone. Cefais i fy siomi i weld nad oedd ffeithiau'r awduron yn gywir. Yn benodol, thema ganolog yr adroddiad a oedd yn honni na fyddai awdurdodau lleol bellach wrth wraidd y broses rheoleiddio bwyd ac y byddai busnesau yn gallu dewis is-gontractiwr, yn ngeiriau'r adroddiad, "i farcio eu gwaith cartref". Fel y dywedais yn ein cyfarfod bwrdd y mis diwethaf, nid yw hyn yn wir. Does dim bwrdiad gennym ni i gael gwared ar awdurdodau lleol o reng flaen y broses o sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label. Yr hyn rydym ni'n ei wneud yw gwella rôl yr awdurdodau lleol drwy ddarparu ffynonellau gwybodaeth eraill iddyn nhw a fydd yn llywio math ac amlder yr arolygiad sy'n ofynnol. O dan raglen Rheoleiddio Ein Dyfodol, bydd awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am orfodi rheoliadau diogelwch bwyd a safonau bwyd. 

Byddwn ni'n cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a fydd yn amlinellu'r hyn rydym ni wedi'i gyflawni a'r prif brosiectau rydym ni'n gweithio arnynt yn ystod 2018 a 2019. Yn ôl yr arfer, hoffem glywed eich barn, a gallwch wneud hynny drwy e-bostio: FutureDelivery@food.gov.uk

Heather Hancock
Cadeirydd yr ASB
 

Cofrestru Manylach: y camau nesaf

Mae Cofrestru Manylach yn rhan allweddol o raglen Rheoleiddio Ein Dyfodol. Ei nod yw gwella'r broses gofrestru i gael data o ansawdd gwell am fusnesau bwyd a fydd yn helpu awdurdodau lleol i flaenoriaethu a theilwra eu gweithgareddau a rhoi golwg gynhwysfawr i ni o'r holl fusnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Bydd gwell system gofrestru, sy’n fwy cyflawn hefyd, yn rhoi mwy o hyder i ddefnyddwyr wrth i fusnesau bwyd gael eu sefydlu a'u rheoleiddio o'r cychwyn cyntaf. Bydd busnesau bwyd yn elwa o broses gofrestru symlach a chliriach, yn ogystal â mynediad at becyn cymorth wedi’i deilwra a fydd yn eu helpu i gydymffurfio â rheoliadau bwyd.

Rydym ni wedi bod yn cynnal ymchwil dros y misoedd diwethaf i ddeall sut mae awdurdodau lleol yn dod i wybod am fusnesau bwyd. Rydym ni am wybod pa fath o gymorth sydd angen i ni ei ddatblygu er mwyn gwneud cofrestru'n haws ac yn fwy defnyddiol i fusnesau bwyd. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn golygu y bydd busnesau yn llwyddo o'r dechrau. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhannau eraill o'r llywodraeth i adolygu dulliau arloesol ac arferion da presennol.

Byddwn ni’n dechrau profi’r system gofrestru newydd dros y mis nesaf gydag o leiaf wyth awdurdod lleol cyn profi’n gyhoeddus yn yr haf. Ein nod yw gwireddu potensial y system gofrestru fel y bydd busnesau yn gallu diweddaru eu gwybodaeth eu hunain yn y dyfodol. Byddwn ni hefyd yn gallu gwirio enw perchennog y busnes, a gyda’n partneriaid awdurdodau lleol, yn gallu olrhain newidiadau i fusnesau bwyd fel perchennog, math o fwyd neu math o safle.​

Yn y fideo isod, mae Sean Suckling a Helen Castledine-Smith, y ddau yn gynghorwyr polisi awdurdodau lleol/technegol ar gyfer rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol, yn trafod eu gwaith ar Gofrestru Manylach a meysydd Segmentu model rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol a'r hyn y mae'r ddau wedi cyfrannu at y rhaglen o'u cefndiroedd ym maes Iechyd yr Amgylchedd. Mae Sean wedi dod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd o'i rôl fel Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd yng Nghyngor Caer Efrog a Helen wedi dod o'i rôl fel arweinydd tim Bwyd a Diogelwch Cyngor Dinas Derby.

Cynigion ar gyfer safon strategaeth arolygu genedlaethol diogelwch bwyd, goruchwyliaeth a sicrwydd prif awdurdod

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym ni wedi bod yn archwilio sut allai cynllun y Prif Awdurdod chwarae rôl ym Model Rheoleiddio Ein Dyfodol.

Mae strategaeth arolygu genedlaethol yn caniatáu i brif awdurdod gymryd mwy o reolaeth dros ymyriadau rhagweithiol ar draws busnes (neu grŵp o fusnesau), gan leihau ymyriadau rhagweithiol os oes tystiolaeth gref bod y busnes yn cydymffurfio a rheoli ei risgiau'n dda. 

Mae modd gweld adroddiad a gyhoeddwyd gennym ni ar ein gwaith cynnar yn ystod 2017 yn y ddogfen hon:

Ers hynny rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chwe phartneriaeth prif awdurdod a chydweithwyr yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol (BEIS) i ddatblygu'r meini prawf y byddai angen i brif awdurdod eu bodlini cyn gweithredu strategaeth arolygu genedlaethol.

Rydym ni'n gobeithio y bydd y meini prawf drafft hyn yn dod yn 'safon' yr Asiantaeth Safonau Bwyd a gaiff ei chyhoeddi fel canllawiau rheoleiddiwr cenedlaethol. Byddai angen i bartneriaethau fodloni'r safon hwn cyn y gallwn gydnabod strategaeth arolygu genedlaethol a gall awdurdodau lleol ei dilyn.

Y 'safon' arfaethedig
 
Dyma ein gwaith ar y 'safon' hyd yn hyn. Mae'r ddogfen (Saesneg yn unig) yn cynnwys y meini prawf drafft, rhywfaint o ganllawiau drafft ynghylch sut y gallai partneriaeth eu bodloni, a syniadau ynghylch y math o dystiolaeth y byddai angen i bartneriaethau ei rhoi i ni.  

  • Oes unrhyw feini prawf ar goll y byddech chi'n eu hystyried yn rhai pwysig? Os felly, beth ydyn nhw?
  • A oes unrhyw feini prawf nad ydynt yn angenrheidiol neu sy'n ormod o faich, yn eich barn chi? Os felly, beth ydyn nhw?
  • A yw fformat y ddogfen ganllaw yn briodol? Os nad yw'n briodol, sut allai fod yn well?
  • Os ydych chi, neu os ydych chi am fod yn brif awdurdod sy'n ystyried cynhyrchu strategaeth arolygu genedlaethol, a ydych chi'n meddwl bod y ddogfen hon yn ddefnyddiol? Os nad yw'n ddefnyddiol, sut allai fod yn well?
  • Os ydych chi'n awdurdod gorfodi neu ddefnyddiwr, a fyddai gwybod bod prif awdurdod wedi bodloni'r safon hwn yn rhoi hyder i chi amdanyn nhw/am eu strategaeth arolygu genedlaethol? Os na fyddai, sut allai fod yn well?

Cynigion ar gyfer goruchwylio a sicrwydd

Yn ogystal, rydym ni wedi bod yn ystyried sut y dylem ni asesu cynigion strategaeth arolygu genedlaethol, a pha oruchwyliaeth y dylai fod gennym ni o bartneriaethau sy'n gweithredu strategaethau arolygu cenedlaethol.

Rydym ni'n cydnabod bod yn rhaid i'r ASB, awdurdodau lleol a defnyddwyr fod yn siŵr bod busnesau sy'n cael eu cwmpasu gan strategaeth arolygu genedlaethol yn cael eu rheoleiddio'n effeithiol, a bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

Rydym ni wedi creu'r ddogfen isod (Saesneg yn unig) sy'n rhoi manylion ein syniadau ar oruchwyliaeth a sicrwydd hyd yn hyn. Rydym ni hefyd yn ceisio barn ar y ddogfen hon, a byddem yn gwerthfawrogi adborth ar ein syniadau cychwynnol. 

Adborth

Dylech chi anfon eich adborth at: primaryauthoritysupport@food.gov.uk erbyn 10 Mai 2018.  

Panel Cymuned Defnyddwyr Rheoleiddio Ein Dyfodol

Cafodd cyfarfod cyntaf panel newydd Cymuned Defnyddwyr Rheoleiddio Ein Dyfodol ei gynnal fis Mawrth 2018. Roedd 12 person ar y panel o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y panel, sy'n cynnwys cymysgedd o hen aelodau ac aelodau newydd yn rhoi perspectif defnyddwyr ar flaenoriaethau'r rhaglen yn ystod y cyfnod cyflawni a gweithredu.

Yn ystod y sesiwn gyntaf, cafodd aelodau newydd gyflwyniad i'r rhaglen;roedd hyn yn cynnwys crynodeb o'r sesiynau a gynhaliwyd yn 2017. Cafodd yr aelodau eu rhannu'n grwpiau cymysg (gan chwarae rôl rheoleiddiwr neu weithredwr busnes bwyd) a gofynnwyd iddynt ganolbwyntio'n benodol ar agwedd Cofrestru Manylach y rhaglen. Cafodd astudiaethau achos busnesau newydd eu rhoi i bob grŵp a gofynnwyd iddynt pa wybodaeth a fyddai'n dangos i'r rheoleiddiwr bod gan y busnesau’r gallu a'r capasiti i gynhyrchu bwyd sy'n ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label.

Roedd hi'n braf gweld bod pawb yn cytuno â'r wybodaeth sy'n hanfodol i'r broses gofrestru. At ei gilydd, roeddent yn cefnogi'r syniad o gyfnewid gwybodaeth ddigidol yn ogystal â gwerthfawrogi bod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn bwysig. Roeddent o'r farn bod tystiolaeth o systemau a chofnodion hylendid bwyd yn hollbwysig, yn ogystal â phroffil risg busnesau bwyd. Hefyd, roedd disgwyliad bod gan y rheoleiddiwr ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad hawdd eu cyrraedd i helpu busnesau â'u rhwymedigaethau statudol. Yn gyffredinol, roedd rhywfaint o gefnogaeth ar gyfer trefn codi tâl, ac er bod lleiafrif o'r farn na ddylai busnesau bwyd bach dalu, roedd y rhan fwyaf o'r farn ei bod yn deg disgwyl iddynt wneud hynny, cyhyd â bod y ffioedd hyn yn gymesur â maint y busnes.     

Roedd pawb wedi cymryd rhan mewn trafodaethau drwy gydol y dydd ac roedd ganddynt ddiddordeb mewn dysgu mwy am y rhaglen a chyfrannu ati. Bydd sesiynau'r dyfodol yn cynnwys gweithgareddau ar-lein.