Rick Mumford, Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth
Mae’r Athro Rick Mumford yn Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Tystiolaeth ac Ymchwil yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, lle mae’n arwain tîm amlddisgyblaethol gyda dros 90 aelod o staff, yn darparu asesiad risg a thystiolaeth economaidd-gymdeithasol i gefnogi diogelwch bwyd y Deyrnas Unedig.
Ar ôl hyfforddi fel firolegydd a biolegydd moleciwlaidd, mae ganddo 25 mlynedd o brofiad fel gwyddonydd cymhwysol ymarferol (gan ganolbwyntio ar ddiagnosteg a bioddiogelwch), ac fel arweinydd gwyddonol, gan gynnwys rolau uwch hyd at lefel weithredol o fewn y llywodraeth a’r sector preifat.
Mae Rick wedi ysgrifennu dros 75 o gyhoeddiadau gwyddonol, ac mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Newcastle ac yn Gymrawd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.