Y bobl sy'n diogelu dy blât
Rydym ni'n credu y dylai pawb allu ymddiried yn y bwyd y maen nhw'n ei fwyta, ac rydym ni'n gweithio i gyflawni hynny.
Rydym ni'n cyflogi 1059 o bobl, ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy'n gweithio'n ddi-baid drwy gydol y flwyddyn i sicrhau eich bod chi'n gallu ymddiried yn y bwyd ar eich platiau. O'r staff mewn lladd-dai, ac arolygwyr sy'n ymweld â gwinllannoedd, warysau, ffatrioedd torri a llaethfeydd i'r rhai sy'n eich amddiffyn rhag troseddau bwyd a chadw pobl sy'n byw gydag alergedd ac anoddefiad bwyd yn ddiogel – dewch i gwrdd â'r bobl sy'n amddiffyn eich plât.
Dineka Fleming-Ovens, Arolygydd Hylendid Cig a Llaeth



'Fy ngwaith i a gwaith pob arolygydd cig a llaeth yw sicrhau'r cynnyrch mwyaf diogel posibl, a hynny o'r fferm i'r fforc, er mwyn i chi allu mwynhau eich bwyd.'
Fel Arolygydd Hylendid Cig, mae Dineka yn cynnal archwiliadau hylendid dyddiol mewn lladd-dai, ffatrioedd torri ac ati yn ogystal â gwirio amodau lles anifeiliaid, archwilio anifeiliaid byw, anifeiliaid hela a dofednod am arwyddion o glefydau. Mae cyfrifoldeb dyddiol Dineka yn golygu sicrhau mai dim ond cig a ddaw o fannau sydd wedi'u diogelu ac sy'n bodloni safonau hylendid uchaf yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) sy'n llenwi platiau defnyddwyr.
Fel arolygydd llaeth, mae Dineka yn sicrhau bod safon hylendid boddhaol yn cael ei chynnal ar bob fferm laeth trwy archwilio safleoedd ac offer godro ac anifeiliaid sy'n cynhyrchu llaeth. Mae'r arolygiadau'n helpu i ddiogelu cyflenwad llaeth amrwd y genedl rhag cael ei halogi gan facteria a sylweddau eraill.
Mark Dawson, Arweinydd y Tîm Arolygu Gwin


'Gyda chymaint o'r boblogaeth o oedolion yn mwynhau gwydraid da o win, rydw i a fy nhîm yn sicrhau bod y defnyddiwr bob amser yn cael yr wybodaeth gywir ac yn gallu bod yn sicr o ansawdd a tharddiad eu hoff winoedd.'
Mae Mark a'i Dîm Arolygu Gwin yn gweithio o'r grawnwin i'r gwydr i ddiogelu'r defnyddiwr rhag nwyddau ffug a halogedig. Mae Mark yn gyfrifol am sicrhau bod pob cynnyrch gwin wedi'i labelu'n briodol a'i ddisgrifio'n gywir, o Swm yr Alcohol yn ôl Cyfaint (ABV) i gynhwysion a tharddiad. Gan weithio'n agos ag adrannau eraill y llywodraeth fel DEFRA a Chyllid a Thollau EM i wirio dogfennau mewnforio, ac awdurdodau lleol i gynnal safonau masnach priodol ar lefel manwerthu, mae Mark a'i dîm o arolygwyr yn diogelu safonau diogelwch bwyd uchel y DU ar draws pob cynnyrch gwin.
Ruth Willis, Uwch Ddadansoddwr Polisi Bwyd Newydd

'Rydw i'n helpu i gefnogi busnesau bwyd wrth ddarparu bwyd diogel i ddefnyddwyr. Rydw i'n frwd dros fodloni disgwyliadau uchel pobl am gynnyrch newydd a hyrwyddo ein hangerdd cenedlaethol dros roi cynnig ar fwydydd arloesol.'
Mae Ruth yn gyfrifol am sicrhau bod bwydydd newydd sy'n dod i mewn i farchnad y DU yn ddiogel. Mae'n gweithio'n agos gyda thîm o arbenigwyr gwyddonol ac arbenigwyr polisi i sicrhau mai dim ond y bwyd mwyaf diogel sy'n cyrraedd ein platiau.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae gwaith Ruth a'i thîm wedi cynnwys awdurdodi'r cynhwysion sy'n lleihau colesterol sydd mewn sbrediau braster isel, a hadau chia – pethau sydd bellach ar gael yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd y DU.
Ross Yarham, Rheolwr Rhaglen Ymchwil Alergedd ac Anoddefiad Bwyd

'Rydym ni'n ymdrechu i ddefnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn i lywio popeth a wnawn. Yn fy rôl unigryw, rydw i'n helpu i sefydlu a chyflwyno astudiaethau ymchwil o ansawdd uchel sy'n sail i'n gwaith ar alergedd ac anoddefiad bwyd.'
Mae Ross yn rheoli ein Rhaglen Ymchwil Alergedd ac Anoddefiad Bwyd sy'n helpu i ddarparu ymchwil, asesiad risg arbenigol a chyngor arbenigol ar gyfer digwyddiadau alergedd ac anoddefiad bwyd yn y DU. Mae Ross a'i dîm yn sicrhau bod yr holl wybodaeth am gynhwysion yn ffeithiol gywir ac yn cael ei phrofi yn wyddonol, gan roi i bobl sydd ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd yr hyder hanfodol sydd ei angen arnynt wrth brynu eu pryd nesaf. Gydag oddeutu 2 filiwn o bobl yn y DU bellach ag alergedd bwyd, mae gwaith Ross yn hanfodol wrth sicrhau bod pawb ar draws y wlad yn gallu mwynhau bwyd diogel.
Tina Potter, Uwch Swyddog Digwyddiadau

'Yr hyn rydw i'n arbennig o falch ohono yw'r cyflymder yr ydym ni'n gwneud ein gwaith a'r safon uchel iawn o waith a gyflawnir i wneud i hyn ddigwydd.'
24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, mae Tina a'i thîm yn ymateb i ddigwyddiadau bwyd a hysbysir gan awdurdodau lleol a busnesau bwyd. Ar ôl ymchwilio'n llawn i bob honiad, mae Tina a'i thîm yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i ddiogelu defnyddwyr – boed hynny'n cael gwared ar gynhyrchion o'r farchnad neu anfon rhybuddion yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr am risgiau, fel eitemau bwyd sy'n cynnwys alergenau.
Roedd nifer yr hysbysiadau digwyddiadau a ddaeth i law Tina a'i thîm y llynedd dros 1,600, sef 45 digwyddiad yr wythnos ar gyfartaledd, gan gynnwys pryderon am atchwanegiadau, alergenau, a mewnforion ac allforion anghyfreithlon.
Ed McDonald, Swyddog Cyswllt Twyll Bwyd

'I wneud y math hwn o waith mae angen i chi fod â natur chwilfrydig a dyfalbarhad o'r mwyaf. Rydym ni eisiau sicrhau bod defnyddwyr yn gallu ymddiried mewn bwyd a'i fod yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label.'
Fel Swyddog Cyswllt Twyll Bwyd, mae Ed yn gweithio gyda'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd i nodi gweithgarwch anghyfreithlon yn y gadwyn cyflenwi bwyd. Mae ei waith yn ymgorffori popeth o weithio gyda'r heddlu i atal potsio ceirw anghyfreithlon, hyd at helpu partneriaid i ymchwilio i gamddefnyddio llafur wrth gasglu pysgod cregyn yn anghyfreithlon.
Mae gwaith Ed hefyd wedi cynnwys gweithredu yn erbyn gwerthu tabledi deiet o'r enw DNP, sef cemegyn diwydiannol hynod wenwynig, a ddefnyddir yn bennaf fel plaladdwr. Mae DNP wedi arwain at farwolaeth llawer o bobl yn y DU ers dechrau 2015, a gwneud nifer o bobl eraill yn ddifrifol wael. Gyda'r achos hwn, mae Ed a'i dîm yn parhau i weithio'n galed i godi ymwybyddiaeth o sgîl-effeithiau posibl defnyddio DNP er mwyn atal y gwerthiant ohono.
David Cracknell, Rheolwr Rheolaethau Swyddogol ar Bysgod Cregyn

'Ar gyfartaledd, rydw i'n gofalu am 4000 o dunnelli o gregyn gleision, 850 o dunnelli o wystrys, 13 o dunnelli o gregyn bylchog a 12 o dunnelli o gocos, gan fonitro eu hamgylcheddau er mwyn gwneud yn siŵr erbyn iddyn nhw gyrraedd ein platiau, mai'r blas yn unig y bydd gofyn i ni boeni amdano.'
Mae David a'i dîm yn asesu ardaloedd pysgod cregyn gan gynnwys aberoedd, afonydd a dyfroedd arfordirol o gwmpas Cymru a Lloegr ar gyfer pob halogiad posibl, gan gynnwys cemegau, tocsinau ac effeithiau amgylcheddol fel glaw. Mae'r tîm yn cymryd samplau rheolaidd i greu darlun o ansawdd y dŵr a'i effaith bosibl ar y pysgod cregyn a gaiff eu cynaeafu yn yr ardal honno. Yn benodol, mae David yn cadw llygad am wahanol docsinau niweidiol fel gwenwyn pysgod cregyn parasitig (PSP). Mae gwaith David yn hanfodol – gall un dos o PSP arwain at barlys a marwolaeth o fewn 20 munud.