Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol

Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac Athro Clefydau Heintus ym Mhrifysgol Birmingham.

Professor Robin May

Dechreuodd yr Athro Robin May ei rôl fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB ym mis Gorffennaf 2020.
 
Roedd hyfforddiant cynnar yr Athro May mewn Gwyddorau Planhigion ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yna cwblhaodd PhD mewn bioleg celloedd mamaliaid yng Ngholeg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Birmingham. Ar ôl ymchwil ôl-ddoethurol i dawelu genynnau yn Labordy Hubrecht yn yr Iseldiroedd, dychwelodd i’r Deyrnas Unedig (DU) yn 2005 i sefydlu rhaglen ymchwil ar glefydau heintus mewn pobl. Roedd yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Microbioleg a Haint ym Mhrifysgol Birmingham o 2017–2020. 

Mae’r Athro May yn parhau â’i waith ar Glefydau Heintus ym Mhrifysgol Birmingham. Yn Gymrawd Teilyngdod Ymchwil Cymdeithas Frenhinol Wolfson ac yn Gymrawd Academi Microbioleg America, mae’r Athro May yn arbenigo mewn ymchwil i glefydau heintus mewn pobl, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut mae pathogenau’n goroesi ac yn dyblygu o fewn organebau lletyol (host organism). Fe’i benodwyd yn Athro Ffiseg yng Ngholeg Gresham ym mis Mai 2022, lle mae’n traddodi darlithoedd am ddim i’r cyhoedd ar feddygaeth, iechyd a gwyddorau cysylltiedig. Ym mis Mai 2023, cafodd ei ethol yn Gymrawd yr Academi Gwyddorau Meddygol.

Fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB, bydd yr Athro May yn darparu cyngor gwyddonol arbenigol i Lywodraeth y DU ac yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i ddeall sut y bydd datblygiadau gwyddonol yn llunio gwaith yr ASB, yn ogystal â goblygiadau strategol unrhyw newidiadau posibl.