Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

2,4-dinitroffenol (DNP)

Peryglon pils deiet DNP a rôl yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd wrth leihau’r risg i iechyd y cyhoedd.

O 1 Hydref 2023, ailddosbarthwyd 2,4-dinitrophenol (DNP) fel gwenwyn o dan Ddeddf Gwenwynau 1972.

Mae hyn yn golygu nad cyfrifoldeb yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) bellach yw ymchwilio ac erlyn y drosedd o werthu DNP i’w fwyta gan bobl. Dyma gyfrifoldeb yr heddlu erbyn hyn.

Mae 2,4-dinitrophenol (DNP) yn gemegyn diwydiannol hynod wenwynig.  Yn ddiweddar, mae DNP wedi cael ei werthu’n anghyfreithlon fel pilsen sy’n arwain at golli pwysau. Mae DNP yn wenwynig i bobl a gall arwain at farwolaeth, yn ogystal â sgil-effeithiau corfforol difrifol eraill.

Mae'n drosedd gwerthu DNP i'w fwyta gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU). Gall y rhai sy'n gwerthu DNP gael eu herlyn o dan Ddeddf Gwenwynau 1972. Gall cosb gynnwys dedfrydau hir o garchar. 

Peryglon iechyd DNP

Gall effeithiau pils deiet DNP fod yn drychinebus ac achosi niwed difrifol i iechyd. Mae cymryd DNP wedi arwain at nifer sylweddol o farwolaethau yn y DU.

Mae sgîl-effeithiau eraill DNP yn cynnwys:

  • teimlo'n gyfoglyd
  • chwydu
  • aflonyddwch
  • croen yn cochi
  • chwysu
  • teimlo'n benysgafn
  • cur pen
  • anadlu'n gyflym
  • curiad calon afreolaidd. 

Gall cataractau a niwed i'r croen hefyd ddatblygu, yn ogystal â niwed i'r galon a'r system nerfol.

Os ydych chi wedi cymryd DNP, cysylltwch â meddyg neu weithiwr proffesiynol meddygol yn syth.

Gwerthu DNP fel pilsen deiet

Mae gwerthu DNP i'w fwyta gan bobl yn anghyfreithlon. 

Powdwr melyn yw DNP, fel arfer wedi’i wneud ar ffurf tabled neu gapsiwl.  Fe ellir gwerthu DNP ar wefan, trwy gyfrif cyfryngau cymdeithasu, mewn siop atchwanegiadau bwyd neu gan bobl yn y gampfa. 
 
Mae rhai pobl yn credu y bydd cymryd DNP yn gwella eu hymddangosiad corfforol neu'n arwain at golli pwysau, ond nid yw hyn yn wir. Gall gwerthwyr hysbysebu ei ddefnydd ar gam, er eu bod yn ymwybodol o'i effeithiau peryglus.

Rhoi gwybod am rywun yn gwerthu DNP

Rhowch wybod am unrhyw un sy'n gwerthu DNP ar unwaith i'ch heddlu lleol, yr awdurdod lleol, Crimestoppers, neu drwy'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd.