Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Bwyd anifeiliaid anwes

Rydym ni'n gyfrifol am ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid sy'n berthnasol i'r broses o weithgynhyrchu bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, gan gynnwys bwyd anifeiliaid anwes a 'trîts' i anifeiliaid anwes.

Mae anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd fel arfer yn cynnwys:

  • anifeiliaid sydd â ffwr (mae magu'r anifeiliaid hyn wedi'i wahardd yn y Deyrnas Unedig)
  • anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn sw neu syrcas  
  • anifeiliaid sy'n cael eu cadw mewn labordai 
  • creaduriaid sy'n byw'n rhydd yn y gwyllt
  • anifeiliaid anwes

Dylech nodi at ddibenion y ddeddfwriaeth y caiff ceffylau a chwningod eu hystyried i fod yn anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd. 

Labelu bwyd anifeiliaid anwes

Wrth ddatgan cynhwysion, mae gan weithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes y dewis i ddatgan yn ôl categori, er enghraifft, olewau a brasterau neu gig a chynhwysion sy'n dod o anifeiliaid. 

Mae dau fudd i ddatgan cynhwysion bwyd anifeiliaid anwes yn ôl categori:

  • mae'n caniatáu gweithgynhyrchwyr i reoli amrywiadau o ran cyflenwad y deunyddiau crai a ddefnyddir yn well
  • mae'n rhoi hyblygrwydd o ran labelu cynhwysion 

Mae'r ddau ffactor hyn yn helpu i osgoi costau ychwanegol afresymol.

Mae deddfwriaeth labelu bwyd anifeiliaid yn caniatáu gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes i amlygu presenoldeb neu absenoldeb cynhwysyn penodol, ac i roi gwybodaeth ychwanegol (tu hwnt i'r isafswm statudol gofynnol) i gwsmeriaid.  

Mae enghreifftiau o wybodaeth ychwanegol yn cynnwys datganiadau dadansoddol o brotein neu ffeibr, neu enw a chyfeiriad y gweithgynhyrchwr.  

Mae'r wybodaeth ychwanegol yn destun mesurau diogelu penodol. Mae'n rhaid iddi gynnwys ffactorau gwrthrychol a mesuradwy y gellir eu profi, ond ni ddylai gamarwain cwsmeriaid na gwneud honiadau meddyginiaethol. Mae'r mesurau diogelu hyn yn sicrhau bod labeli cynhyrchion bwyd anifeiliaid anwes yn cynnwys y cynhwysion fel y maen nhw'n cael eu nodi ar y label.

Cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes domestig

Mae modd cymeradwyo cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn safle domestig, ond bydd angen i chi gadw at yr holl amodau sy'n berthnasol i ffatrïoedd bwyd anifeiliaid anwes eraill. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gynnal gwaith samplu bacteriolegol, a rhoi system rheoli diogelwch bwyd anifeiliaid ar waith yn seiliedig ar egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).

Dylech gysylltu â'ch swyddfa Safonau Masnach leol i gofrestru a cael rhagor o gyngor. 

Bwyd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio cynhwysion sy'n dod o anifeiliaid yn eich cynhyrchion (dylech nodi fod 'dod o anifeiliaid' hefyd yn cynnwys, er enghraifft: llaeth, wyau a deunyddiau sy'n dod o'r môr megis pysgod a physgod cregyn), yna bydd hefyd angen i chi gofrestru â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion dan y rheolau sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae'r adran honno'n gyfrifol amdanynt. 

Mae hyn o achos y goblygiadau i iechyd anifeiliaid drwy gludo, storio neu ddefnyddio deunydd sy'n dod o anifeiliaid mewn modd anghywir.

Os ydych chi'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel cig, pysgod neu gynhyrchion llaeth, mae'n bwysig eich bod chi'n cysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Mae rhagor o wybodaeth am y rheolau hyn ar gael ar y dudalen cyflenwi a defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel bwydydd anifeiliaid fferm

Bwyd anifeiliaid anwes sy'n dod o anifeiliaid

Mae deunyddiau sy'n dod o anifeiliaid a ddefnyddir gan y diwydiant bwyd anifeiliaid anwes yn gyfuniad o rannau o anifeiliaid sy'n weddillion o fwyd a gaiff ei fwyta gan bobl, neu na chânt eu bwyta fel arfer gan bobl yn y Deyrnas Unedig (DU). 

Mae'r deunyddiau hyn yn dod o anifeiliaid sy'n cael eu harchwilio a'u cymeradwyo i'w bwyta gan bobl cyn eu lladd. Mae'n rhaid nad oes afiechydon trosglwyddadwy yn y deunyddiau, sydd felly'n eithrio deunyddiau o anifeiliaid sy'n marw, rhai sydd ag afiechydon neu anifeiliaid anabl.

DEFRA sy'n gyfrifol am unrhyw ddeunydd anifeiliaid o'r fath nad yw ar gyfer pobl. Caiff y deunydd hwn ei ddosbarthu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid dan Reoliad y Comisiwn Ewropeaidd 1069/2009 ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth am y diwydiant sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Ychwanegion mewn bwyd anifeiliaid anwes

Mae bwyd anifeiliaid anwes yn destun mesurau rheoli tebyg i'r rheiny ar gyfer bwyd anifeiliaid ar gyfer da byw sy'n cael ei ffermio o ran yr ychwanegion a lefel y sylweddau annymunol a ganiateir. Yn gyffredinol, prif ran yr asesiad risg wrth osod y lefelau uchaf a ganiateir o ran sylweddau annymunol ar gyfer anifeiliaid anwes yw i ba raddau gall yr anifail eu dioddef. 

Marchnata bwyd anifeiliaid anwes

Mae cyfyngiadau ar ddefnyddio rhai honiadau ar fwyd anifeiliaid, ac mae nifer o'r rhain yn berthnasol i fwyd anifeiliaid anwes. 

Mae enghreifftiau o'r honiadau hyn yn cynnwys:

  • cefnogi gweithrediad arennol mewn achosion o ddiffyg ar yr arennau
  • lleihau anhwylderau amsugnol acíwt y coluddion
  • rheoli cyflenwad glwcos a chefnogi'r croen gyda dermatosis
  • colli llawer o wallt.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy Reoliad 2020/354 yr UE a gymathwyd, sy'n cynnwys rhestr o ddefnyddiau bwriedig bwyd anifeiliaid ar gyfer buddiannau maethol penodol. Mae hefyd yn gosod amodau o ran eu defnydd.

Ar gyfer rheolaethau ar reoli ychwanegion bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid anwes, cymerwch gip ar y ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid.

Os ydych chi'n gwneud cynnyrch bwyd anifeiliaid anwes, yna bydd hefyd gofyn i chi gael eich cymeradwyo gan APHA.

Cynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid anwes yn yr un lle

Ni chaniateir i chi gynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes amrwd (raw) masnachol o'ch cegin ddomestig.

Ar 21 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ganllawiau i gefnogi busnesau bwyd a'u hasiantaethau gorfodi i reoli'r risgau o gynhyrchu bwyd anifeiliaid penodol mewn sefydliadau sydd hefyd yn cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.

England, Northern Ireland and Wales

Datblygwyd y canllawiau hyn yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i ganiatáu cynhyrchu bwyd anifeiliaid anwes mewn sefydliadau bwyd.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).