Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cludo cig 'cynnes' o ladd-dai cig coch

Sut i wneud cais am ganiatâd i gludo cig 'cynnes' o ladd-dai cig coch.

Mae deddfwriaeth hylendid yn ei gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy gadw cig yn is na 7°C cyn iddo gael ei gludo. Caiff cig 'uwchlaw'r tymheredd' neu gig 'cynnes' ei ddiffinio fel cig sy'n cyrraedd 7°C ac uwch cyn iddo gael ei gludo i sefydliadau awdurdodedig. 

Proses ymgeisio

Gallwch chi wneud cais i gael eich awdurdodi i gludo cig uwchlaw'r tymheredd hwn os ydych chi'n bodloni'r gofynion yn Rheoliad 2017/1981.

Gallwch chi hefyd wneud cais i gael eich awdurdodi i gludo cig cynnes ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion penodol os oes rheswm technolegol pam nad oes angen lleihau'r cig i fod yn is na'r gofyniad cyfreithiol. 

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

England, Northern Ireland and Wales

I wneud cais i gael eich awdurdodi i gludo cig cynnes, mae'n rhaid i chi gysylltu ag un o'n Milfeddygon Swyddogol. Byddan nhw'n trafod y broses ymgeisio â chi a'r gofynion y mae gofyn eu bodloni.

England, Northern Ireland and Wales

Ar ôl cael eich awdurdodi

Ar ôl i chi gael eich awdurdodi, gellid ei ddiwygio, ei wahardd neu ei dynnu'n ôl os nad ydym ni'n fodlon bod y gofynion cywir yn cael eu bodloni.

Proses apelio 

Pan gaiff diwygiad, gwaharddiad neu ddiddymiad ei gyhoeddi, bydd gennych chi'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Gallwch chi gyflwyno apêl yn ysgrifenedig at y Tîm Cymeradwyo o fewn 20 diwrnod wedi i'r hysbysiad ddod i law.

Yn ystod y broses apelio mae'n rhaid i chi roi'r gorau i gludo cig cynnes i sefydliadau a oedd wedi'u cynnwys o fewn eich awdurdodiad yn flaenorol.

Bydd yr apel yn cael ei hymchwulio gan Brif Filfeddyg Maes a yddwch chi a'r Milfeddyg Swyddogol yn cael gwybod am ganlyniad yr apêl o fewn 20 diwrnod gwaith wedi'r penderfyniad.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cymeradwyo a Chofrestru'r Asiantaeth Safonau Bwyd drwy e-bostio: approvals@food.gov.uk