Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofrestru ac arolygu llaeth

Sut i wneud cais i gofrestru daliad cynhyrchu llaeth a sut rydym ni’n cynnal arolygiadau ar ffermydd llaeth

Cofrestru daliad cynhyrchu llaeth

Er mwyn gallu cynhyrchu llaeth a chynnyrch llaeth, bydd angen i chi gofrestru.

Yng Nghymru ac yn Lloegr, gallwch chi wneud cais i gofrestru gyda ni gan ddefnyddio'r ffurflen gais i gofrestru daliad cynhyrchu llaeth.

Os oes angen unrhyw gyngor neu gymorth arnoch gyda'ch cais, neu os oes gan gynhyrchwyr cofrestredig presennol unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ynghylch statws cofrestru, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i approvals@food.gov.uk.
 

Arolygiadau hylendid llaeth

Rydym ni’n arolygu pob fferm laeth yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae ein harolygiadau hylendid llaeth yn sicrhau bod safon foddhaol o hylendid yn cael ei chynnal ar bob fferm laeth a bod yr holl rwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni. Rydym ni’n gwneud hyn trwy:

  • arolygu safleoedd ac offer godro
  • arolygu anifeiliaid sy'n cynhyrchu llaeth
  • gorfodi safonau boddhaol

Mae'r arolygiadau'n helpu i ddiogelu cyflenwad llaeth amrwd y genedl rhag cael ei halogi gan facteria a sylweddau niweidiol eraill.

Pa mor aml y cynhelir arolygiadau?

Mae'r amlder arolygu arferol ar gyfer safleoedd cofrestredig sy’n cynhyrchu llaeth yn dibynnu ar:

  • math o gynnyrch
  • math o rywogaeth sy’n cynhyrchu’r llaeth
  • dyddiad yr arolygiad diwethaf
  • aelodaeth o'r cynllun achrediad trydydd parti (Cynllun Sicrwydd Ffermydd Llaeth Tractor Coch)
  • hanes cydymffurfio’r fferm
  • unrhyw wybodaeth, cwynion neu ymchwiliadau lleol eraill a allai olygu bod angen arolygiad

Arolygu bob 6 mis

  • llaeth buwch i’w yfed yn amrwd i'w werthu’n uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol
  • llaeth yfed amrwd o'r holl rywogaethau eraill i’w werthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol 

Arolygu bob 2 flynedd

  • cynhyrchu llaeth amrwd i'w gyfanwerthu o rywogaethau heblaw gwartheg 
  • cynhyrchu llaeth amrwd i'w gyfanwerthu o wartheg ar fferm laeth heb ei gwarantu

Arolygu bob 10 mlynedd

  • cynhyrchu llaeth amrwd i'w gyfanwerthu o wartheg ar fferm laeth warantedig