Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cymeradwyo molysgiaid dwygragennog byw a chynhyrchion pysgodfeydd

Gwybodaeth reoleiddio am gymeradwyo cynhyrchion molysgiaid dwygragennog a physgodfeydd i fusnesau.

Sefydliadau cymeradwy

Rydym ni'n cyhoeddi manylion pob sefydliad cymeradwy yn y Deyrnas Unedig (DU)

Cynhyrchion pysgodfeydd

Mae'n rhaid cymeradwyo safle sy'n trin neu'n prosesu cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog byw o dan Reoliad yr Undeb Ewropeaidd 853/2004, o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir (retained EU law).

Caiff cynhyrchion pysgodfeydd eu diffinio fel pob anifail dŵr môr neu ddŵr croyw, p’un a ydynt yn wyllt neu wedi’u ffermio. Mae hyn yn cynnwys holl ffurfiau, darnau a chynhyrchion bwytadwy yr anifeiliaid hyn.

Dyma'r anifeiliaid dŵr môr a dŵr croyw nad ydynt yn gynhyrchion pysgodfeydd:

  • molysgiaid dwygragennog byw
  • echinodermau byw
  • tiwnigogion byw
  • gastropodau morol byw pob mamal
  • ymlusgiaid
  • brogaod

Molysgiaid dwygragennog

Y diffiniad o folysgiaid dwygragennog yw molysgiaid dwygragennog sy'n bwydo drwy hidlo.

Mae'r rheoliadau yn cymhwyso'r un amodau i:

  • diwnigogion
  • echinodermau
  • gastropodau morol
  • gosod meini prawf ar gyfer cynhyrchu
  • cynaeafu
  • ailosod
  • cludo a dosbarthu.

Canllawiau ar gyfer y diwydiant bwyd

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Canllawiau Arfer Hylendid Da ar gyfer y Diwydiant bwyd: Proseswyr Pysgod Gwyn a gyflenwir gan y Llyfrfa. (Saesneg yn unig)

Manylion cysylltu

ffôn: 01904 232060
e-bost: approvals@food.gov.uk
ffôn: 028 90 417700
e-bost: executive.support@food.gov.uk
ffôn: 029 2067 8957
e-bost: lasupportwales@food.gov.uk