Cymeradwyo sefydliadau bwyd

Sefydliadau y mae'n rhaid eu cymeradwyo, ac unrhyw eithriadau sy'n gymwys.
Diweddarwyd ddiwethaf

Sefydliadau cymeradwy yn y Deyrnas Unedig (DU) a'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae'n rhaid i fusnesau bwyd cyfanwerthu sy'n cyflenwi bwyd a ddaw o anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cymwys o dan Reoliad 853/2004. 

Rydym ni'n cyhoeddi manylion pob sefydliad cymeradwy yn y DU.

Hefyd, mae rhestrau o sefydliadau cymeradwy Aelod-wldawriaethau'r UE.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gennym ni

Mae gofyn gweithredu rheolaethau milfeddygol yn y sefydliadau canlynol, ac mae'n rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gennym ni:

  • lladd-dai
  • ffatrioedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig

Sut i wneud cais i gymeradwyo sefydliad cig

Sefydliadau y mae gofyn eu cymeradwyo

Mae sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol yn cynnwys sefydliadau cig, pysgod a physgod cregyn a sefydliadau cynnyrch anifeiliaid.

Sefydliadau cig y mae gofyn eu cymeradwyo

Mae sefydliadau yn cynnwys storfeydd oer sy'n ail-lapio ac yn ail-becynnu cig, briwgig (minced meat), paratoadau cig a sefydliadau sy'n prosesu cig wedi'i wahanu'n fecanyddol.

Ffatrioedd sy'n cynhyrchu:

  • cynhyrchion cig
  • brasterau a chriwsion (greaves) anifeiliaid wedi'u rendro
  • stumogau wedi'u trin
  • pledrennau a pherfeddion 
  • gelatin
  • colagen

Sefydliadau pysgod a physgod cregyn y mae gofyn eu cymeradwyo

Sefydliadau sy'n cynhyrchu molysgiaid dwygragennog byw gan gynnwys canolfannau dosbarthu a chanolfannau puro.

Sefydliadau sy'n gweithio â chynhyrchion pysgodfeydd gan ddefnyddio:

  • ffatrioedd a llongau rhewi
  • ffatrioedd prosesu
  • cynhyrchion pysgodfeydd ffres
  • neuadd arwerthu
  • marchnadoedd cyfanwerthu
  • sefydliadau cynnyrch anifeiliaid y mae gofyn eu cymeradwyo
  • sefydliadau sy'n cynhyrchu llaeth amrwd a chynhyrchion llaeth

Hefyd, sefydliadau wyau a chynhyrchion wyau, gan gynnwys:

  • canolfannau pecynnu
  • ffatrioedd prosesu
  • ffatrioedd hylif wy

Gallwch ddod o hyd i fanlyion eich awdurdod lleol drwy'r dudalen 'Dod o hyd i'ch cyngor lleol' ar-lein (Saesneg yn unig).

Cofrestru busnes bwyd (Saesneg yn unig)

Cysylltiadau Tîm