Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cynhyrchu gwin

Sut i gyflwyno datganiadau cynnyrch a chanllawiau ar gyfoethogi, sylffwr deuocsid a therfynau melysu wrth gynhyrchu gwin.

Wrth wneud gwin mae’n ofynnol i chi gwblhau datganiadau cynnyrch er mwyn cadw cofnod o gynhyrchiant blynyddol.

Wrth gynhyrchu gwin, mae hefyd angen i chi fod yn ymwybodol o lefelau cyfoethogi, cyfyngiadau sylffwr deuocsid, a melysu gwin.

Datganiad cynhyrchu

Bob blwyddyn mae cynhyrchwyr yn cwblhau Datganiadau Cynhyrchu (WSB21 neu WSB21b) i gynnal cofnod o gynhyrchiant blynyddol. 

Dylid cyflwyno datganiadau cynhyrchu erbyn y dyddiad cau ym mis Ionawr bob blwyddyn.

  • WSB 21 (Cynhyrchwyr gwin) Saesneg yn unig ar hyn o bryd
  • WSB 21b (Defnyddwyr eraill) Saesneg yn unig ar hyn o bryd

Os symudir grawnwin, sudd, gwin newydd (must) neu winoedd i’w troi yn win, efallai y bydd angen Dogfen Fasnachol Gysylltiedig (CAD). Mae’r gofyniad hwn yn dibynnu ar y pellter rhwng y winllan a’r gwindy. Gellir gweld cyfarwyddiadau yn y ffurflen WSB15

Dynodiad cynnyrch

Gellir marchnata gwinoedd fel Gwin Cymreig (Seisnig) o Ansawdd (Enw Tarddiad Gwarchodedig neu PDO) neu Win Rhanbarthol Cymreig (Seisnig) (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig neu PGI) os ydynt yn bodloni meini prawf dadansoddi a blasu, a bod gwiriadau dilysu o gofnodion gwindy’r cynhyrchydd gan yr Arolygwyr Safonau Gwin yn foddhaol.

Mae Cynllun Gwin Ansawdd Sussex (QWS) wedi cael amddiffyniad trosiannol cenedlaethol. Mae hyn yn golygu bod y term ‘Sussex’ wedi’i warchod yn y Deyrnas Unedig (DU). Dim ond cynhyrchwyr sy’n ardystio’n llwyddiannus fel rhan o gynllun Sussex QWS sy’n gallu defnyddio ‘Sussex’. Cysylltwch â’ch Arolygydd Safonau Gwin i gael rhagor o wybodaeth cyn ei ddefnyddio.

Gellir gwerthu gwin hefyd fel Gwin Amrywiaethol (wedi’i labelu gydag amrywiaeth/cynhaeaf y gwinwydd) os cyflwynir cais i Wine GB.

Cyfyngiadau cyfoethogi

Y lefel gyfoethogi, y cyfeirir ati hefyd fel ‘chaptalization’, yw faint o siwgr sy’n cael ei ychwanegu at win grawnwin newydd (grape must). Gwneir hyn i gynyddu cynnwys alcohol cyn eplesu.

Ers mis Hydref 2009, cynnydd o 3% yng nghyfanswm yr alcohol yw'r terfyn cyfoethogi a ganiateir. Os yw amodau hinsoddol yn anffafriol, gellir gosod terfyn ychwanegol o 0.5%.

Mae’r lefel isaf o alcohol gwirioneddol yn aros ar gyfaint o 8.5% ar gyfer gwin sydd heb ddynodiad daearyddol. Mewn gwirionedd, 5.5% yw’r cryfder alcoholaidd naturiol isaf a ganiateir, oni bai bod y cyfoethogiad o 0.5% wedi’i ganiatáu.

Mae’r lefel uchaf a ganiateir ar gyfer cyfanswm alcohol mewn gwin wedi’i gyfoethogi yn parhau ar 11.5% ar gyfer gwin gwyn, a 12% ar gyfer gwin coch a gwin rosé. Nid yw’r lefel uchaf yn berthnasol i Win Ansawdd (PDO).

Nid ywr ASB bellach yn gofyn am hysbysiadau o gyfoethogi, asideiddio na dad-asideiddio.

Terfynau sylffwr deuocsid

Y lefelau uchaf ar gyfer cyfanswm y sylffwr deuocsid yw 150mg/litr mewn gwin coch.

Y terfyn ar gyfer gwinoedd gwyn a rosé yw 200mg/litr. Y terfyn ar gyfer gwinoedd pefriog o safon yw 185 mg/litr.

Terfynau melysu

Does dim gwahaniaeth mewn darpariaethau melysu rhwng gwinoedd wedi’u cyfoethogi a rhai nad ydynt wedi’u cyfoethogi.

Ni ellir cynyddu cyfanswm (gwirioneddol a phosibl) cryfder alcoholaidd gwinoedd o fwy na chyfaint o 4%.

Mae uchafswm cyfanswm y cryfder alcoholaidd yn parhau ar 15%, ac eithrio ar gyfer Gwinoedd Ansawdd (categori PDO) sydd heb eu cyfoethogi.