Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan yr ASB ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr asesiad cymeradwyo, a’r hawl i apelio.

Rhestr o sefydliadau a gymeradwyir gan yr ASB.

Cais am sefydliad newydd

Defnyddiwch ein gwasanaeth cymeradwyo i wneud cais gam gymeradwyaeth gan yr AS ar gyfer eich sefydliad. Bydd angen i chi greu cyfrif er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn.

Pan ddaw eich cais i law, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i drefnu ymweliad i gynnal asesiad.

Cais am weithgareddau ychwanegol  

Os ydych eisoes wedi’ch cymeradwyo fel sefydliad cig ac rydych am wneud cais i gymeradwyo gweithgareddau neu rywogaethau ychwanegol, defnyddiwch ein gwasanaeth cymeradwyo.

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan yr ASB

Rheoli eich cais

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwch yn gallu ei reoli a'i olrhain trwy ein gwasanaeth ceisiadau am gymeradwyaeth.
 

Cymru a Lloegr

Ymweliadau cynghori

Os ydych am wneud cais i gymeradwyo eich sefydliad, gallwch ofyn am ymweliad cynghori. Nod ymweliadau cynghori yw eich helpu i nodi’r gofynion lles a hylendid a allai fod yn gymwys i’ch gweithgareddau cymeradwyo arfaethedig. Mae’r meysydd cyngor yn cynnwys strwythur adeiladau, offer a chyfleusterau, ystyriaethau hylendid gweithredol a HACCP, arferion da, rheoli cofnodion, a gweithdrefnau gweithredu safonol yn ogystal â lles anifeiliaid.

Codir ffi benodol am ymweliadau cynghori sy’n daladwy cyn yr ymweliad.  Y ffi ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 yw £375.36 gan gynnwys TAW. Ni ellir ad-dalu’r ffi hon. 

Gallwch ofyn am ymweliad cynghori pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais wrth ddefnyddio ein gwasanaeth cymeradwyo.

England and Wales

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Asesiad cymeradwyo

Fel rhan o'r broses gymeradwyo, byddwn yn asesu:

  • offer a seilwaith eich sefydliad
  • eich system rheoli diogelwch bwyd, fel rhan o'r broses gymeradwyo.

Nid oes hawl gennych weithredu tan i chi gael cymeradwyaeth amodol.

Ar ôl eich cymeradwyo, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn dychwelyd o fewn tri mis i asesu’r broses gynhyrchu a'ch cydymffurfiaeth â’r holl ofynion hylendid a nodir yn:

Ar ôl i’r safle gael ei gymeradwyo, ychwanegir manylion y safle ynghyd â gwybodaeth sy’n ymwneud â'r mathau o fwydydd a gynhyrchir at y rhestrau o sefydliadau cymeradwy.

Yr hawl i apelio

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad os gwrthodir cymeradwyaeth i’ch safle o dan gyfraith bwyd.

Gallwch gyflwyno apêl un mis o’r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad.

Mae trosolwg llawn o’r broses ar gyfer cymeradwyo sefydliadau cig ym mhennod 1 adran 4 o’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol (MOC). Mae hefyd yn egluro ym mha amgylchiadau y byddem yn tynnu eich cymeradwyaeth yn ôl.

Cymeradwyo sefydliadau bwyd yng Ngogledd Iwerddon: trefniadau llywodraethu a pholisi cymeradwyo
 

Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy

Rhestr lawn o sefydliadau, fel ffatrïoedd torri a lladd-dai, a gymeradwywyd i drin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid y gosodir gofynion ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) a gymathwyd Rhif 853/2004.