Mae'n rhaid i gynhyrchion sydd wedi'u pobi a gaiff eu mewnforio, fel bara, cacennau, bisgedi a chwcis o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE) fodloni'r un safonau a gweithdrefnau hylendid bwyd a chyfansoddiad â bwyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig (DU) neu Aelod-wladwriaethau eraill yr UE.
Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch chi i fewnforio'r cynhyrchion hyn.
Trwyddedau mewnforio
Efallai na fydd angen trwydded iechyd neu hylendid arnoch chi i fewnforio bwyd, ond mae llawer o fwydydd o wledydd y tu allan i'r UE yn gofyn am drwyddedau at ddibenion masnachu, ac efallai y byddant yn destun cwotâu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Asiantaeth Taliadau Gwledig.
Labelu
Gellir dod o hyd i wybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar GOV.UK.
I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.
Deunydd pecynnu
Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylliad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir i becynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth gynhwysfawr yr UE a weithredir yn y DU.
Mae'r ddeddfwriaeth yn drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd.
I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd foodcontactmaterial@food.gov.uk
Hylendid bwyd
Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol ar hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd foodhygiene.policy@food.gov.uk
Ychwanegion
Gall rhai cynhyrchion wedi'u pobi gynnwys lliwiau bwyd, cyflasynnau (flavourings) neu felysyddion.
Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai wedi'u cymeradwyo yn yr UE.
I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion (preservatives) bwyd, cysylltwch â'r Tîm Ychwanegion Bwyd foodadditives@food.gov.uk
Diogelwch cemegol
Halogion
Mae nodyn cyfarwyddyd ar halogion yn Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013, sy'n darparu ar gyfer deddfu a gorfodi Rheoliadau'r Comisiwn sy'n gosod terfynau rheoleiddiol ar gyfer y halogion canlynol:
- Nitrad
- Mycotocsinau
- Metelau
- Deuocsinau 3-MCPD
- Hydrocarbonau aromatig polcyclic
Plaladdwyr
I gael gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr ar gyfer mewnforio, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Afflatocsinau
Imports of certain foodstuffs from certain non-EU countries, including some bakery products, are subject to special conditions Mae mewnforio rhai bwydydd o wledydd penodol nad ydynt yn rhan o'r UE, gan gynnwys rhai cynhyrchion wedi'u pobi, yn destun amodau arbennig oherwydd y risg o halogiad gan afflatocsinau. Bydd hyn yn golygu y gall llwythi gyrraedd yr UE drwy borthladdoedd neu feysydd awyr penodol yn unig, sy'n bwyntiau mewnforio dynodedig lle caiff rheolaethau swyddogol eu gweithredu.
Mae rhagor o ganllawiau ar mycotocsinau a gwybodaeth bellach ar gyfer busnesau ar gael ar ein gwefan.
Tocsinau ffiwsariwm
Mae deddfwriaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd sy'n cwmpasu halogiad â thocsinau ffiwsariwm mewn cynhyrchion sydd wedi'u pobi. I gael cyngor ar y ddeddfwriaeth hon, a gofynion profi am docsinau ffiwsariwm, cysylltwch â chemicalcontaminants@food.gov.uk
Hysbysebu honiadau maeth ac iechyd
I gael gwybodaeth am hysbysebu honiadau maeth ac iechyd ar fwyd, cysylltwch â Canolfan gwasanaeth cwsmeriaid yr Adran Iechyd.
Cynhyrchion organig
Os ydych chi'n mewnforio'r cynhyrchion organig canlynol o du allan i'r UE:
- cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu
- cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid
- deunydd ysgogi llystyfiant
- hadau i'w tyfu o du allan i'r UE
Mae angen i chi geisio cyngor pellach gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).
I gael gwybodaeth am reoleiddio a safonau organig – gan gynnwys labelu – o fewn y DU, cysylltwch â DEFRA.
Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid
Er bod cacennau, bisgedi a chynhyrchion toes (pastries) yn gallu cynnwys symiau bach o gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid fel wyau, menyn neu siwet, byddai eu mewnforio hefyd yn dod o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Oherwydd y prosesau a ddefnyddir i baratoi'r cacennau, y bisgedi a'r cynhyrchion toes (cymysgu ac yna coginio), ni ystyrir y rhain fel arfer yn gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid.
Fodd bynnag, os yw'r gacen, y fisged neu'r cynnyrch toes yr ydych chi'n dymuno ei fewnforio yn cynnwys hufen neu hufen-menyn ffres, byddant yn cael eu hystyried i fod yn gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac felly yn destun rheolau gwahanol, llymach.
Ymhlith gofynion eraill, bydd hyn yn gofyn am ardystiad o'r cynnyrch, y safle sy'n cynhyrchu'r cynnyrch sy'n cael ei drwyddedu gan yr UE a gwiriadau milfeddygol wrth i'r cynhyrchion ddod mewn i'r DU.
I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau ar gyfer mewnforio cacennau, bisgedi neu gynhyrchion toes sy'n cynnwys hufen neu hufen-menyn ffres, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Mae APHA yn Asiantaeth Weithredol sy'n perthyn i DEFRA.